Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRUv Cyf. II Rhif7 Golygydd: E. WYN JAMES, B.A. Rhifyn 1984 Awduron 'Swn y Juwbili' Derbyniwyd yr ysgrif hon gan gyn-olygydd y Bwletin, y Parch. Gomer M. Roberts, cyn ei daro gan y gwaeledd sydd bellach wedi caethiwo gymaint arno. Estynnwn ein cydymdeimlad iddo yn wyneb y salwch blin sydd wedi ei oddiweddyd. Mae'n dda gennym ei fod wedi cryfhau rywfaint oddi ar ddechrau'r salwch, a'i fod mor fywiog ei feddwl a siriol ei ysbryd, er mor llesg o gorff. Manteisiwn hefyd ar y cyfle hwn i'w longyfarch yn wresog ar y ddoethuriaeth er anrhydedd a dderbynnir ganddo oddi wrth Brifysgol Cymru yng Ngorffennaf 1985- anrhydedd gwbl haeddiannol a ddylai fod wedi dod i'w ran lawer blwyddyn yn ôl. Tua chanol y ganrif ddiwethaf fe ddatblygodd yr 'Emyn Efengylaidd', fel y gellir ei alw, yn Unol Daleithiau America, a daeth y math hwn o emynau i fri ar ôl diwygiad crefyddol 1858-9. Cyhoeddodd yr Y.M.C.A. a Chymdeithas Traethodau America filoedd lawer o gopîau o'r Soldiers Hymn Book a'r Hymns and Tunes for the Army and Navy. Daeth emynau diwygiadol i fri mawr trwy lafur pobl fel Dwight L. Moody ac eraill. Cyhoeddwyd hefyd gyfresi o gasgliadau ar gyfer yr ysgolion Sul gan George F. Root, Asa.Hull, William B. Bradbury, Silas J. Vail, Robert Lowry, William G. Fischer, ac eraill. Emynau â chytgan iddynt oedd y ffasiwn, gyda thonau bywiog, càtchy, â chip arnynt. Ceid hefyd wasanaethau mawl poblogaidd, a chenadaethau efengylaidd, lle câi cynulleidfa- oedd ac unawdwyr gyfle i arfer eu doniau cantorion fel H. Thane Miller, W. H. Doane a Philip Bliss (T. P. Bliss'). Cyfarfu Moody ag Ira David Sankey yn 1870, ac yn 1873 aethant ill dau ar eu cenhadaeth gyntaf i Brydain. Cychwynasai William Booth ei genhadaeth cyn hynny yn 1865 cenhadaeth a esgorodd yn y man ar Fyddin yr Iachawdwriaeth. Cyhoeddwyd y Christian Mission Hymn Book yn y chwedegau, sef rhagflaenydd The Sal- yatipn Soldier's Hymn Book, a gynhwysai lawer o'r caneuon efeng- ylaidd Americanaidd. Roedd canwr efengylaidd Americanaidd arall ar ý maes ym Mhrydain, sef Philip Phillips 4Singing Phillips', fel y'i gelwid. Cyhoeddwyd ei American Sacred Songster gan Undeb Ysgolion Sul Prydain, casgliad a gafodd gylchrediad o dros filiwn o gopiau. Mabwysiadwyd un o gasgliadau Philip Phillips, Hallowed Songs, gan Moody a Sankey, a chanai'r olaf lawer o ganeuon newydd o America. Bu galw mawr am y rheini, a cheisiwyd cael atodiad ohonynt i'r Hallowed Songs. Ni fynnai'r cyhoeddwr ganiatáu hynny,