Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. II Rhif 10 Golygydd: E. WYN JAMES, B.A. Rhifyn 1987-88 Emynau 'Eban, y lleban llwyd' Mis Awst poeth, braidd yn llethol, yn y flwyddyn 1827 yw hi ac y mae gwr ifanc ar ei ffordd o'r Waun-fawr yn Arfon i Lanarmon yn Eifionydd. Y mae golwg go lwydaidd a gofidus ar y gwr ifanc hwn, golwg rhywun sydd wedi gorfod dwyn pwys a gwres y dydd mewn mwy nag un ffordd cyn haf 1827. Nid gwr o Arfon mohono ychwaith; brodor o Eifionydd, bro'r beirdd, yw ef ac er nad yw ond pump ar hugain mlwydd oed y mae 'Cybi o Eifion' (oherwydd dyna ei enw barddol) eisoes yn aelod amlwg o frawdoliaeth y beirdd yno, ochr yn ochr ag enwau mwy cyfarwydd byth, beirdd fel Dewi Wyn o Eifion, Robert ap Gwilym Ddu a Siôn Wyn, y bardd gorweddiog. Ond fel 'Eban' yr adwaenir ef yn ei gynefin; Ebenezer, mab Thomas Williams o Lanarmon, gwehydd ac un o sylfaenwyr yr Ysgol Sul yn Llangybi. Yn wir, fe'i galwyd yn 'Eban, y lleban llwyd' gan ei wrthwynebydd mewn ymryson farddol: Eban, y lleban llwyd, mewn oedran Mae'n edrych fel breuddwyd, Yn waela' un a welwyd, A oes i'w ben eisiau bwyd? Ie, Ebenezer Thomas yw hwn, neu Eben Fardd fel yr adwaenid ef yìr nes ymlaen, bardd ifanc a synnodd y genedl gyfan pan enillodd gadair^ Eisteddfod y Trallwng, dair blynedd ynghynt, â'i awdl ddramatig 'Dinistr* Jerusalem gan y Rhufeiniaid'. Heddiw, buasai Eben yn y Waun-fawr ar ôl cael gwahoddiad i gadw ysgol yn y pentref ond ni chafodd neb yno i'w benodi. Dyna pam y mae'n ymlwybro'n ôl, yn siomedig a blinderog, i Lanarmon. Yna, dyma'r teithiwr lluddedig yn cofio iddo glywed bod angen sgwlyn yng Nghlynnog Fawr yn Arfon. Galwodd heibio'r ficer y gwr caredicaf dan haul' meddai wedyn ac fe'i derbyniwyd yn llawen. Yng Nghlynnog y bu weddill ei fywyd a thyfu'n un o brifeirdd ei genedl a'i gyfnod, yn feimiad eisteddfodol o bwys, yn hanesydd lleol ac yn achyddwr o fri. Fel amryw o feirdd y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth Eben yn emynwr adnabyddus ac yn olygydd emynau. Bu'n rhaid aros tan 1862, ryw flwyddyn cyn iddo farw, cyn cael casgliad o'i emynau ei hun. Ond yr oedd amryw wedi ymddangos mewn casgliadau cynharach. Dyma bedwar o'r rheini: