Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHORAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNO NOHYMRU Cyf. IX GAEAF 1953 Rhif 4 NODIADAU'R GOLYGYDD DENNOD o obiter dicta (sylwadau wrth fynd heibio) y tro hwn, sef perlau o'r gadair. Pennod o hela sgwarnogod. Anoddefgarwch ydyw priodoli i'r bobl sydd yn anghytuno â ni ddogn helaethach o'r pechod gwreiddiol nag i'r bobl sydd yn cytuno â ni. Ffordd hwylus i osgoi ymresymu â'n gwrthwynebwyr ydyw dweud eu bod wedi eu cyflyru i gredu fel y gwnânt. Dylem fod yn siwr i ddechrau ein bod yn deall yn glir sut y cyflyrwyd ninnau i gredu fel y gwnawn. 'Rwy'n anghytuno â'r arfer o alw Giraldus Cambrensis yn Gerallt Gymro." Nid am ei fod yn gyfieithiad anghywir-nid oes gennyf wrthwynebiad pedantig i air neu enw anghywir os bydd wedi ennill ei blwy-ond am ei fod yn camarwain pobl. Pa sawl gwaith y bûm i'n ymffrostio wrth fy nosbarth yn yr ysgol, neu wrth un o ddosbarthiadau'r WEA, fod Giraldus, er mai hanner Cymro a hanner Norman ydoedd o waed, yn ym- falchio cymaint yn ei waedoliaeth Gymreig nes ei alw ei hun yn Gerallt Gymro." Yr oeddwn wedi anghofio fy nhipyn Lladin mor llwyr fel y methais sylwi mai Gerallt o Gymru ydyw'r cyfieithiad cywir o Giraldus Cambrensis, nes i ryw lyfr alw fy sylw at y peth. Ar y sawl a alwodd Giraldus yn Gerallt Gymro y mae'r bai fy mod wedi camarwain cymaint o bobl, a mi fy hun yn eu plith. Y mae rhyw ddirywiad difrifol yn bygwth yr iaith Gymraeg yn ddiweddar, sef bod dynion yn rhoddi'r ystyr a fynnont i'w geiriau a'i hymadroddion. Clywsom ddigon o helynt ar ôl Eisteddfod y Rhyl am fod y rheol Cymraeg yn unig wedi ei gwyrdroi i °lygu Dim Saesneg "-gobeithio bod yr helynt hwnnw wedi ei