Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. (IONAWR, 1908.) SHELLEY. Nid wyf yn meddwl fod neb sydd yn hoffi barddoniaeth erioed wedi anghoflo y tro cyntaf y daeth i gyffyrddiad â Shelley. Nid oes dim yn hollol yr un fath a'r teimlad hwnnw. Yr ydych fel pe'n myned i fyd arall, lle mae gweledigaethau gwahanol a goleuni newydd ar bopeth. Fel yn narluniau Turner, y mae rhyw wawl euraidd yn bod yn myd Shelley, rhyw heulwen sy'rt tyneru'r agos ac yn gwneud y pell fel breuddwyd. Fel yn y darluniau hynny hefyd, feallai nad yw'r olygfa yn ymddangos i chwi yn debyg i'r hyn a welsoch eich hun pan yn edrych arni, ond wrth ystyried deuwch i ddeall mai'r bardd a'r arlunydd oedd yn gweled mwy na chwi, ac mai gyda hwy y mae mwyaf o wirionedd. I mi, a siarad yn bersonol, nid yw yr un peth i'w deimlo gyda'r un bardd arall nid oes yr un arall yn eich cipio i wlad y dydd yn hollol yr un fath nid oes yr un arall mor ýsbrydol fel nas dichon neb gamgymeryd ei seiniau ef am eiddo caniedydd arall. Y mae hud a lledrith yn ei ddilyn lle'r elo, ond drwy'r cwbl y mae efe yn cyrchu at un seren ddisglaer sy'n tywynnu ar y gorwel pell. A chan fod Shelley y dyn mor gymleth â Shelley y bardd, amhosibl ydyw dweyd dim am ei waith heb ddweyd rhywbeth hefyd am ei fywyd. Ganwyd Percy Bysshe Shelley yn y flwyddyn 1792. Mab oedd i Timothy (wedyn Syr Timothy) Shelley, Field Place, Sussex, ac felly yn hannu o deulu henafol a chyfoethog, er heb fod yn enwog am ddoniau gwleidyddol na Uenyddol. Yn wir, anodd fuasai cael unrhyw deulu yn fwy anhebyg o gynyrchu bardd mawr, a gwrth- ryfelwr yn erbyn holl safonau y gymdeithas y ganwyd ef iddi. Yr oedd Syr Timothy yn dirfeddiannydd, yn aelod seneddol yn 01 dull y dyddiau hynny, yn addolwr ffyddlon är jr bendefigaeth, ac yn credu yn ddiysgog fod y byd fel yr oedd wedi ei drefnu gan ragluniaeth, ac mai rhyfyg oedd ceisio gwella na chyfnewid dim arno. Wedi bod mewn ysgol ragbaratoawl, anfonwyd Percy i Eton, ac yno dechreu- odd yn fuan ddangos pa ffordd yr oedd tueddiad ei feddwl. Yma hefyd y dechreuodd ei elyniaeth, afresymol mewn ambell i beth ac