Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL IV, RHIF 10 AWST 1934 AUGUST Yn y Rhifyn Hwn: AM YR EISTEDDFOD (Mam o Nedd) Y CATHOLIG A'R CALFIN—DAU EITHAF CREFYDD (W. D. Davies) DRAMA «TIR ANGO" (Cynan) HANESION AM SYR ROBERT JONES (F. Watson) I LAWR I WREIDDIAU EIN CREFYDD (Timothy Lewis) STORIAU gan Dilys Cadwaladr D. J. Phillips SUT MAE CHWARAE BILIARDS (Bodfan) AR HYD CAMLAS Y DI- FFEITHWCH (Tom Davies) HAF NA THREULIR MO'I FLAS (J. Hugh Jones) DYLIFE A'I HEN WAITH PLWM (Cissie Griffiths) CANU DRAMA LLYFRAU Misolyn Mwyaf Poblogaidd Cymru a'r Cymry drwy'r Byd i Gyd PRIS 6D Mynnwch Gael Cwsg DOES dim tebyg i noswaith o gwsg trwm, naturiol am roi cryfder ac egni ac awch o newydd i ddyn at waith y dydd. A'r un ffordd sicr o fwynhau'r cwsg trwm adnewyddus hwn bob nos, yw yfed cwpanaid o Ovaltine pan ewch i'r gwely. Wedi'i baratoi'n wyddonol o frag haidd, llaeth ac wyau, 'does dim cyffelyb i Ovaltine at esmwytho'r nerfau a chymell yr hun ddofn honno y deffrowch ohoni wedi adfywio drwoch. Yn wahanol i efelychiadau, ni cheir mewn 'Ovaltine' ddim Siwgr Teulu i chwyddo'ì faint a lleihau'r gost o'i wneuthur. 'Cheir ynddo chwaith ddim Sioclad na chyfartaledd mawr y cant o Gocoa. Cwrthodwch efelychiadau. 'OVALTINE' Cap-Nos Gorau'r Byd Prisiau ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon, 1/1, 1/10, a 3/3. P48a