Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Tir Newydd." P AN gododdysyniad am y "TIR NEWYDD" hwn gyntaf oll, ein delfryd oedd sefydlu cylchgrawn yn bennaf at wasanaeth ieuenctid llengar Caerdydd a'r cylch. Amcanem at geisio rhoi cyfle i Gaerdydd brofi ei hawl i fod mewn gwirionedd yn brifddinas Cymru ac ennill lle iddi ei hun fel amddiffynnydd ac arweinydd diwylliant y wlad y mae eisoes yn ganolfan iddi mewn materion masnach ac economeg, a chyda hynny o hunan lywodraeth sydd gennym. Dinas a choleg Caerdydd yw man genedigaeth y cylchgrawn hwn, yma y gwelwyd bod tir newydd yn ein disgwyl yng Nghymru, i'wddarganfodgennym a'i weithio a'i feddiannu, er lledu teyrnas y diwylliant Cymreig. E ITHR yn rhinwedd hyn bu'n rhaid arnom ehangu ein gwelediad. Ers peth amser bellach teimlwyd gan lawer fod angen cylchgrawn yng Nghymru a allai roi mynegiant i waith a syniadau 'r genhedlaeth ìtancsy ncodiheddiw; cylchgrawnynunswyddargyíer artistiaid ieuainc o bob math-penseiri, paentwyr, cerddorion, gwyr y ddrama a'r sinema, yn ogystal a'r beirdd a'r llenorion — nad oes gwir gyfle iddynt yn y rhan fwyaf o gylchgronau a phapurau'r wlad; cylchgrawn lle y gall beirniaid ieuainc neu fyfyrwyr sy'n haeddu amgenach cynulleidfa na chynull- eidfa'u coleg draethu eu barn ar athroniaeth, ar lên, ac ar wyddoniaeth yr oes, ei chymdeithas a'i diwylliant. Mae angen gwaith a syniadau'r gwyr hyn ar Gymru, a bydd lle ar dudalennau "TIR NEWYDD" i bob agwedd ar waith yr artist, a mynegiant llawn o'r diwylliant modern gan gynnwys y wyddoniaeth sydd fwyfwy beunydd yn ffurfio sail nid yn unig bywyd cyffredin ein gwareiddiad heddiw ond ein bywyd esthetig hefyd. Croesawn yn gynnes felly gyfraniadau o werth llenyddol ac o ddiddordeb cyffredinol o bob rhan o Gymru. Cynigiwn y "Tir NEWYDD" at wasanaeth yr holl wlad: o chawn y gefnogaeth a hoffem (ac a ddis- gwyliwn) gobeithiwn maes 0 law wneud y cylchgrawn yn fwy ac yn well. w RTHollwng y rhifyn cyntaf hwn o'n dwylo, dymunwn ddiolch yn gynnes iawn i'r rhai hynny a wnaeth y fenter hon, drwy eu cymorth parod, yn bosibl. Onibae am garedigrwydd a haelioni 'r cyfeillion hyn, byddai ceisio sefydlu "TIR Newydd yn waith anobeithiol, a'n prif obaith yn awr yw ein bod wedi llwyddo i gyn- hyrchu rhifyn sy'n deilwng o'r gefnogaeth a roddwyd ganddynt i'n hymgais. Mae'n rhaid cydnabod hefyd ein dyled i'n cyfeillion (rhai ohonynt eisoes â lle anrhydeddus ganddynt fel ysgrifenwyr a llenorion) a fu mor garedig â gosod urddas ar ein rhifyn cyntaf drwy gyfrannu peth o'u gwaith tuag ato, a'n helpu yn y modd sylweddol hwn i gael ein traed danom. Diolchwn yn gynnes iawn iddynt hwy, ac ar yr un pryd ymddiheurwn i eraill am fethu â chyhoeddi eu hysgrifau y tro hwn oherwydd prinder gofod.