Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymru, 1935. Gwyn eu byd dy brydyddion brwysg a glybu ymbil pibau pêr yn nhrybestod dy dymhestloedd, canys eiddynt y chwedl nas dehongla cnawd. Gwyn eu byd dy gariadon gynt a lesmeiriai ar dy fronnau moethus wrth weld rhyfeddod y rhosynnau ar dy ruddiau a'r briallu ar dy ben, canys hwynthwy bioedd greadigaethau glân dy groth. Minnau a ffolais ar dy lendid yn nydd fy niniweidrwydd, eithr mwyach ni chlywaf namyn oesol ddyhead dy blant yn rafio dy wyntoedd, a'u cur yn reiat dy law: ac ni welaf weithion namyn eu dagrau yng ngoddaith dy lywethau a'u gwaed gwirion ar daen ar dy glai. Atgof a fydd dy hen ogoniant bellach- dim ond atgof yn ymdonni fel cysgod hunllef dros fôr tywyll cwsg. GWILYM R. JONES.