Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eiriolwyr. Ar liniau f'annwyl gariad Mae geiriau dwys fy nghri A chwiliaf am eiriolwr mad A bledia f'achos i. Dadleuaf hud Aglaia A nwyfus lam ei throed Pan dery pibau eglur Pan Eu miwsig yn y coed. Dadleuaf galon unig Morwynig Tauris draw, Pan godai hiraeth tan ei bron Fel ymchwydd ton ddi-daw. Mi enwaf dduw'r grawnsypiau A grym ei hyfryd boen Gan laned gwedd Ariadne deg A channaid liw ei chroen Pob hoen a thristyd calon A wybu dyn a duw, F'eiriolwyr angerddolaf, O perwch im gael byw! GWYN GRIFFITHS. Cyfnos. Pan gerddais neithiwr dros y llwybr 'Fyny'r rhiw ar gefn y rhos, Nyddai Natur yn ei thrachwant Goch a phorffor lenni'r nos. Anadlai'r awel rywiog fwyn Drwy 'r grug a'r eithin crin, Suai'n araf, yna'n dawel, Gân o gwsg i'r ddaear flin. Uwch fy mhen ehedai'r brain, Un yn galw'r llall yn ôl, — Llef yr heddiw diflanedig, Llef yr heddiw na ddaw'n ôl. Ymlonyddais, pob angerdd boenus Yn gudd ym marwor du y tân, Ond ar orwel pell fy enaid Clywais grochlef gras y frân D. LLEWELYN WALTERS.