Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfraniad Cymru at Gelfyddyd Heddiw. I.­YN GYFFREDINOL. Nid heb ofal ystyriol y dewisais y teitl hwn am fyfyrdod ar yr Arddangosfa ardderchog a ddangoswyd yn ddiweddar yn Aberystwyth sydd yn awr i'w gweld yn Abertawe, ac a ddangosir yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, o ganol mis Hydref hyd ddiwedd mis Tachwedd. Teitl swyddogol yr Arddangosfa hon yw "Celfyddyd Gyfoes Cymru," ond, er bod hyn yn enw digon cyfleus arni, mae'n camarwain, oherwydd nid oes, wrth gwrs, y fath beth â phaentio neu gerfluniaeth Gymreig heddiw fel y cyfryw, er bod llawer o baentio cyfoes gwir bwysig o waith artistiaid sy'n Gymry o waed neu wedi eu geni yng Nghrymru. Edrych ar y presennol o safbwynt y gorffennol yw disgwyl am ysgolion cenedlaethol cryf o baentio heddiw. Ganrif yn ôl, hanner canrif yn 61 hyd yn oed, yr oedd byd celfyddyd mor fychan a threfnus. Dyna i chwi Gelfyddyd y Prif Oesoedd (copiau Rhufeinig oedd hyn o gerfluniau Groeg, gan mwyaf), a'i disgynydd, Celfyddyd y Dadeni. Wedyn, yr oedd rhyw ychydig o ysgolion cendlaethol ar gael-Fflandrys, Holand (mor drwm a chartrefol), Ffrainc (gosgeiddig ac ychydig yn anweddus), a Lloegr (ysgol ail-radd, a ymddangosai'n fawr i Saeson am ei bod mor agos i'w llygaid)-y rhain i gyd, ag eithrio efallai ysgol ddirmygedig Holand, yn dal Hen Feistri'r Eidal i fyny'n dragywydd fel patrwm perffeithrwydd. Yr oedd hyn mor daclus a syml. Ond yn ystod yr hanner canrif diwethaf, mae'r naill ddatguddiad ar 61 y llall wedi ein gorfodi i newid ein perspectif hanesyddol. Sylweddolwyd, yn gyntaf gan ysgolheigion ac yna-trwy deithio rhad, amgueddfàu ac atgynyrchiadau ffotograffig- gan bawb a ymddiddorai o ddifrif mewn celfyddyd, nad traddodiad Groeg a Rhufain a'r Dadeni yw'r unig fath ar gelfyddyd o bell ffordd. Datguddiwyd inni orchestion celfyddyd y naill wareiddiad ar 61 y llall. Gorfodir arnom heddiw gydnabod nid yn unig mai un o lawer yw celf- yddyd Groeg a Rhufain a'r Dadeni, ond hefyd nad hon, efallai, yw'r orau. Daeth yr artist heddiw yn gyfarwydd â cherfluniau Bwdaidd a ffrescoau o Seina sy'n dangos uchter o ddyrchafiad ysbrydol na lwyddodd neb, ag eithrio'r gorau o baentwyr cynnar yr Eidal, ddod yn agos iddo. Gwyddom bawb am dirluniau o gyfnod Ty Sung sy'n peri i dirluniau y Gorllewin, pan osodir y rhain ochr yn ochr â hwy, ymddangos fel gwaith plentyn diwyd. Celfyddyd Mesopotamia gynt, celfyddyd gynnar yr Aifft, hen gelfyddyd Groeg, Mecsico a Pheriw, Persia, Scythia, gwir gelfyddyd Seina, cerfluniaeth Affrica, lluniau cyntefig Siapan,- rhoddwyd y rhain, a llawer eraill, o fewn i'n cyrraedd yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf.