Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Aros. Tynnodd Dai goler ei gôt fach denau'n dynnach am ei wddf, oher- wydd yr oedd y noson yn oer, a gwynt y dwyrain, wrth chwythu i fyny 'r cwm ac ar hyd yr heol gul, yn fain ac yn llym Yr oedd wedi bod gryn bum munud efallai ar y gornel, lle 'r addawodd gwrdd â Mari am chwech o'r gloch, a chychwynasai o'r ty tua chwarter i'r awr. Felly, rhaid ei bod bron yn amser iddi ddod. Ond yr oedd hi 'n sicr o fod ychydig yn hwyr-rhai felly, meddyliai, oedd y menywod yma i gyd. Gwenai'n dawel iddo ef ei hun, gan ddychmygu fel y byddai'n ei gweld ymhen munud neu ddau yn troi'r gornel draw ac yn brysio i groesi'r heol tuag ato, â'r wên yn dechrau disgleirio yn y llygaid byw: fel y byddai'r gwefusau pert, wrth iddi nesu ato, yn ymffurfio i gynanu ei enw ac i hel esgusion am fod yn hwyr: ac fel y byddai ef yn ei cheryddu'n gariadus, ac yn maddau'n fuan, gan selio'r maddeuant â chusan cêl. Yna, anghofio blinder am ychydig a cheisio paradwys gyda'i gilydd yn y nos. Wel, yr oedd yn werth aros dipyn yn yr oerfel er mwyn hyn Cerddodd yn araf i fyny'r stryd dlawd i oleuni'r post cyntaf, â'i ddwylo'n ddwfn ym mhocedi ei drwsus er ceisio cadw'n dwym. Ychydig iawn o bobl oedd o gwmpas, ac odid ddim i aflonyddu ar y distawrwydd namyn sWn y gwynt a sang ei draed ei hun ar y palmant — a rhyw awgrym isel, ambell waith, o si bywyd aflonydd y cwm islaw. Aeth un neu ddau o lowyr heibio, wedi ymdrwsio a bwyta wedi'r gwaith, ar eu ffordd i dreulio noson lawen yn y "Tarw Du," gan amneidio nos da cyfeillgar wrth basio. Cenfigenai Dai'n fawr wrth y rhain, y rhai ffodus â gwaith ganddynt yn y dyddiau enbyd hyn, y rhai di-bryder, diogel. Wel, pan ddeuai Mari ac yntau i ddealltwriaeth llawn, byddai 'n rhaid iddo ymdrechu unwaith eto gael gwaith, ac ailddechrau ar yr hen gylch blin o bwll i bwll, o swyddfa i swyddfa Troes ar ei sawdl wrth y post a cherdded yn ôl. Dyma 'fe, wedi ymadael â'r ysgol ers dros chwe mlynedd bellach ac heb wneud strôc o waith erioed, ag eithrio rhyw chwe mis mewn gwersyll i 'r diwaith yn Lloegr. Wel, yr oedd yn galed. Nid am ei fod ef yn awyddus iawn erbyn hyn i weithio-drosto ef ei hun o leiaf: ond yr oedd Mari 'n gwneud gwahaniaeth. Byddai'n amhosibl ei phriodi heb iddo gael gwaith yn gyntaf, yn enwedig gan ei bod hi yn eithaf diogel eisoes yn ennill deunaw swllt yr wythnos yn siop yr hen Wiliam Jones. Prin y byddai hi'n fodlon rhoi 'r fath safle o'r neilltu a dechrau bywyd ag un o'r diwaith. Nid oedd yn deg disgwyl iddi wneud hynny. Cyrhaeddodd Dai y gornel, ond nid oedd sôn am Fari. Yr oedd yn rhaid ei bod wedi chwech o'r gloch, — ac eto nid oedd mor sicr: efallai ei fod wedi camsynio 'r amser yn ei ormod gofal i fod mewn pryd, a'i bod yn gynharach nag y tybiai. Ni fyddai Mari'n hir yn awr beth