Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

awr, aeth y ddelw o'r wên annwyl hon, y wên o ddireidi diniwed, yn fwy fwy 'n un o wawd ddirmygus, ystrywgar. Troes ar ei sawdl yn sydyn, ac i lawr y rhiw i olau 'r dref. Yr oedd yn rhaid i Mari ddod y ffordd hyn, a buasai 'n cyfarfod â hi wrth iddi ddod o'r siop. Yn sydyn eto, dyma fo yng nghanol y goleuadau: nid oedd yma sWn y gwynt, ondmegis rhyw ruo pell ,uwch ben, yn y tywyllwch eithaf. Ond yr oedd o hyd yn oer, er bod y goleuadau a'r bobl a oedd yn gweu trwy'i gilydd yn frysiog hyd y stryd, yn rhoi argraff o wres a bywyd. Edrychodd dros yr heol, a gwelodd hi, heb gyffroi dim ynddo'i hun: ar risiau'r sinema, fraich ym mraich â Morgan, â'r wên ddireidus honno ar ei gwefusau, ar fin mynd i mewn i'r gogoniant rhad. A Morgan yn chwerthin yn hapus-uchel, wrth roi ei law yn ei boced Cerddodd Dai yn araf o'r goleuni. Nid iddo ef y rhoddwyd y bywyd hwnnw, y chwerthin a'r llawenydd a fynn ennill eu ffordd er gwaethaf tristwch a digalondid, tlodi ac eisiau. Nid iddo ef ychwaith yr arwriaeth galed sy'n herio ergydion ffawd, canys nid oedd ganddo'r gallu bellach i'w teimlo. Nid oedd llid yn ei fron yn erbyn y lleidr nac yn erbyn anwadalwch Mari: na digofaint yn erbyn y drefn a'i gwnaeth mor wan a diymadferth. Nid oedd ynddo fywyd o gwbl, yr oedd fel pe bae wedi marw, a'i esgyrn sychion yn cerdded tua'r bont ddi-gwmni a groesai afon y Cwm. Pwysodd ar ei chanllaw, ac edrych ar y dyfroedd tywyll, tawel, yn llithro'n esmwyth heibio oddi tanodd, yn araf, bron yn ddistŵr, yn llyfn, o'r ffynnon unig ymhell draw ar y mynydd maith, ar eu ffordd i'r mor diderfyn. Canys yr oedd eu budreddi halog, amhur yn gudd yn awr gan y nos. RHUN. Y Cloc Mawr. Un tal, pwyllog oedd y cloc mawr. Yr oedd yn eich disgwyl gydaP i chwi agor y drws. Bu ei liw yn destun moliant i lawer ymwelwr. Ac yn wir, rhyw liw dwfn oedd arno na cheid mohono ond yn y pren gorau; oherwydd yr oedd yn un ag achau da iddo — a gwyddai hynny. Yr oedd llong hwyliau ryfedd ar ben ei wyneb a llywiwyd hi ar ei hynt ystormus gan y pendil: cyrhaeddai un porthladd yn ddiogel, plwc arall, a dyna hi ben draw'r byd eto. Gyda'i biniau pres disglair a'i ffigurau plaen du yr oedd yn gloc â phersonoliaeth bendant. Wrth hwn y byddwn yn mesur fy oriau penyd wrth y piano, efô ddangosai cyn lleied o amser oedd yn weddill y noswaith cyn yr arholiad. Nid oedd cloc tawel y rŵm ganol yn ddim i'w gymharu â hwn, na hyd yn oed cloc stwrllyd y gegin. Rhaid oedd dod 'nôl a gweld beth ddywedai'r cloc mawr. Ac yn sicr, dilyn hwn fyddai Big Ben a'r