Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

poenydio chwaethus hwn-<loc eithaf disut oedd ar silff ben tân y 'digs.' Nid oedd yn hitio am wneud ei waith yn gyson iawn. Pan fyddai hwn a hwn wedi bwrw'r noswaith yn y digs byddai'r cloc yn aros i dipian tan amser gwely, byddai'n rhannu cyfrinion tawel y cyfnos, addewidion am fwy o waith yn y dyfodol, neu freuddwydion amser pell Ys gwn i ble mae 'r cloc hwnnw nawr ? D. LLEWELYN WALTERS. Anawsterau Technegol y Radio yng Nghymru. Mae Cofforaeth Ddarlledu Prydain wedi cyhoeddi'n swyddogol bellach yr adeiledir trosglwyddydd newydd ym Miwmaris, Sir Fôn. Bydd Cymry ymhob man yn falch anghyffredin o glywed hyn. Yn y gorffennol, methodd miloedd lawer o wrandawyr â derbyn y rhaglenni Cymreig yn gyson, oherwydd y ffordd y mae 'r trosglwyddiad o Ranbarth y Gorllewin yn gwanhau mewn cryfder, gan fynd ar adegau bron yn anghlywadwy a hynny efallai am rai munudau. Hyd yn oed yn y dyfodol, bydd llawer ardal yng Nghymru, lle y bydd gwrando ar y naill drosglwyddydd neu'r Hall, sydd gyda'i gilydd i ddarlledu rhaglenni Cymreig ar yr un pryd, yn anodd ac yn anghyson, oherwydd y gwanhau hwn. Gallwn ddyfalu'n unig ynglyn a'r rheswm am y gwanhau. Mae'r tonnau a anfonir allan gan orsaf drosglwyddo yn dilyn cylch- linell y ddaear, ac ymledant i bob cyfeiriad. Bydd yn ddigon i'n pwrpas ni yn awr ddilyn cwrs y tonnau sydd, dyweder, yn teithio tua'r de. Pan gwrdd y tonnau hyn â mynyddoedd, troir hwynt ar i fyny. Felly, cysgodir yr ochr draw i'r mynydd rhag y tonnau yn yr un modd ag y ceir cysgod yno rhag y gwynt. Cymerwn Flaenau Ffestiniog fel enghraifft bosibl. Mae mynyddoedd Eryri rhyngddo â Biwmaris. Felly bydd tonnau o Fiwmaris, wrth daro ar fynyddoedd Eryri, yn cael eu troi ar i fyny a'u gyrru ymlaen ymhell uwchben Blaenau Ffestiniog. Cysgodir Blaenau Ffestiniog hefyd efallai gan fynyddoedd Meirion ac Ardudwy rhag y tonnau a ddaw o'r de-a gellid meddwl felly na byddai'r Blaenau yn derbyn y naill orsaf na'r llall. Eithr nid felly'n hollol. Gan amgylchynu'r ddaear, a thua deng milltir o bellter, mae'n debyg, oddi wrthi, mae haen neu gylch yn yr awyr a elwir yn Haen Heaviside,* ac fe gredir mai'r haen hon yw'r ffin rhwng y ddau ranbarth atmosfferig agosaf at y ddaear. Pan gyrraedd ton drydan-fagnetig o'r hyd a ddefnyddir gan drosglwyddiaid darlledu yr uchter hwn uwch ben Ar ôl enw'r gwr a'i 'darganfu,' sef Oliver Heaviside (1850.1925).