Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Darlun. Yr oedd Luned Tomos wedi blino'n lân, yn anobeithiol. Gwyrai ei chorff gan drymed ei chod lyfrau a'i llwyth o dascau i'w marcio. Rhedai cwpled o farddoniaeth y bu hi a'r chweched dosbarth yn ei thrafod y prynhawn hwnnw, drwy ei meddwl-drosodd a throsodd fel record gramoffôn a chrac ynddo — "D'oedd dim yn digwydd yno Ond haul, a glaw a gwynt Yn araf, dringodd y rhiw arferol, gwthiodd y llidiart styfnig ar agor; aeth i mewn i'w llety. Ni newidiai dim er y bore — lliain gwyn angladdol ar y bwrdd, aspidistra prudd wrth y ffenestr a rhes o Jonesiaid ymadawedig, yn deidiau a neiniau, mamau a thadau, yn llygadrythu o ganol blodau gwych y pared ar y dieithryn yn eu plith. Yn flinedig, gosododd ei chod ar y llawr a dringo'r grisiau i'w hystafell wely. Yno llefai'r un hen bethau eu neges arswydus iddi. Yn ôl ei harfer, golchodd ei dwylo; cribodd ei gwallt ac edrych â llygaid pwl ar ei hwyneb yn y drych. Oedd, 'roedd ôl pob un o'i naw mlynedd ar hugain arni Dyna a wnai 'r ysgol i ferch! Pan ddychwelodd i'w hystafell yr oedd gwraig y ty yn gosod y llestri te. "O dyna chi Miss Tomos. 'Own i'n meddwl i mi'ch clywed chi'n dod miwn. Diwrnod arall ar ben!" "Ie, Mrs. Jones"-a suddodd Miss Tomos i'r unig gadair oedd yn o lew o esmwyth. "Shwd ôdd y plant 'eddi, Miss Tomos? — wetws Mrs. Ifans drws nesa wrthw i'r bore 'ma fod yr 'Edmistres yn y cyngerdd nithwr,- ôdd i'n smart ofnadw 'ed-gyta'r doctor! Beth yw'r clonc yr wy' i'n glywed obothtu hi a'r doctor? Ma nhw'n mynd obothtu shew da'i giddil y diwrnota 'yn! cwpwl bach teidi yn nhw'n disghwl 'ed "Wn i ddim, wir"-yn oerllyd iawn. Pallodd ffrwd huotledd y wraig a chyda "Ma'ch te chi'n barod ta beth"— aeth allan. "Yr hen gêg" mwmiai Luned. "Wn i ddim pam na heliaf fy mhac a chlirio allan i ryw ddigs arall Yr oedd jam i de, jam mefus gludiog,―a theisen Ysgol Sul. Gwywai blodau'r wythnos diwethaf yn dorcalonnus. Unwaith eto caeodd dyfroedd ei blinder drosti, a'i boddi. Tueddai Luned yn naturiol i freuddwydio; yr oedd ganddi ddelfrydau uchel, disglair a charai harddwch yn angerddol. Ond penderfynodd amgylch- iadau ei gwthio hi i fywyd undonog, caled, dadrithiol athrawes Ysgol