Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodiadau'r Golygydd. Nid o'm bodd yn hollol y cydsyniaf â chais rhai cyfeillion a dechrau cynnwys nodiadau golygyddol yn y TIR NEWYDD. Bu cwyno, mae'n debyg, nad yw apêl cylchgrawn llenyddol yn unig yn ddigon eang, bod hefyd angen datganiad pendant ar faterion politicaidd a chymdeithasol. Yr oeddwn wedi amau ers tro nad yw materion celfyddyd o ddiddordeb eithriadol i'r rhan fwyaf o'r Cymry, ac yr wyf yn gofidio oherwydd y drwg mawr a all ddigwydd i lenyddiaeth o'i throi hi'n israddol i wleid- yddiaeth a phroblemau politicaidd, megis pwnc yr iaith. Yn yr anrhefn gymdeithasol a syniadol y sydd heddiw, gellir esbonio'n hawdd, ac i raddau, esgusodi 'r duedd hon, ond yr oeddwn wedi gobeithio y gallai 'r TIR NEWYDD osgoi'r pethau hyn a'u gadael i gylchgronau eraill mwy cymwys i'r gwaith. Nid oedd disgwyl i'r "Western Mail" er enghraifft ddeall y bwriad, ond yn anffodus fe ymddengys na all Cymru ei ddeall chwaith. Ar yr un pryd, mae'n gwbl amhosibl anwybyddu'r problemau politicaidd a chymdeithasol a'n hwyneba heddiw, a gobeithiaf y bydd agwedd y TIR NEWYDD at y rhain yn eglur o'i thudalennau. Yn ddiau, pennaf broblem Cymru heddiw yw pwnc ymreolaeth, ac y mae'n anodd credu bod neb sy'n gwybod rhywbeth am sefyllfa'r wlad yn gwrthod cydnabod mai hyn yw ein prif angen. Mae 'n anffodus felly fod yr unig blaid sydd o ddifrif gyda'r pwnc hwn wedi ymbriodi â syniadau gwleid- yddol mor blentynnaidd ac adweithiol â'r rhai sydd gan Blaid Gened- laethol Cymru. Cred y TIR NEWYDD yw y dylid trefnu Cymru anni- bynnol ar linellau Sosialaidd. Nid, bid sicr, Sosialaeth wamal y Blaid Lafur Seisnig. Gŵyr Cymru o brofiad chwerw beth yw canlyniad cysylltu delfryd ymreolaeth â radicaliaeth anneallus Lloegr; ac y mae un profiad o'r fath yn ddigon. Y syndod yw bod Sosialwyr Cymru heddiw mor ddall â disgwyl bod modd ennill eu hamcanion mewn gwlad sydd wrth natur yn doriaidd mewn senedd hollol adweithiol, heb boeni dim am anghenion arbennig cenedl sydd eisoes yn aeddfed i'w hefengyl. Ar draul rhagddadlennu neges ysgrif y gobeithiaf ei chyhoeddi yn y rhifyn nesaf, cydnabyddaf yn awr y buasem yn croesawu mabwysiadu polisi sosialaidd gan y Blaid Genedlaethol. Nid wyf yn anfodlon ar gynnydd y TIR NEWYDD hyd yn hyn, ond hoffwn achub ar y cyfle hwn i annog ei charedigion i'w chynorthwyo ymhellach trwy ledu'r sôn amdani ymhlith eu cyfeillion a'u cydnabod.