Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Newid Byd.
Pwy wyr na bydd i ni ryw hwyrddydd haf
fel hwn, gyd-rodio eto law yn llaw
a fflam ein cariad brwd yn ysu'n cnawd
a rhuddo'n gwedd â gwrid synhwyrus serch;
Ac yn y cyfnos gorwedd dan y coed
a gwrando miri' r gwyrdd-ddail, fin wrth fin
ac ymddiddori yn nigrifwch serch
am ennyd-dragwyddoldeb bywyd Uanc.
Ond dichon na bydd mwyach gancr serch,
bob hir gyd-wefus gwin yn ysu'n cnawd
pan uner ni gerbron yr allor lân
a rhoi sêl Duw a Grwndi ar ein blys.
MEURIG WALTERS.
Fy Ngardd.
Mae coed afalau yn fy ngardd,
A'u blodau hardd yn urddas,
A' u lliwiau fil ar frigau fyrdd
Yn llonni ffyrdd y gwyrddlas.
O danynt rhodiaf gyda'r nos
A rhwng y rhos a'r llysiau,
Ac yno oedaf bron yn fud
Oherwydd hud y blodau.
O Rosyn annwyl, tyrd i'r ardd
Mae blodau hardd yn urddo,
Ac yna gweli gennyf i
Na elli di fy nhwyllo.
GERAINT BOwLN.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.