Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sosialaeth yng Nghymru. Wrth ystyried datblygiadau politicaidd y blynyddoedd wedi'r rhyfel, gwelwn mai'r mwyaf nodedig ohonynt oll efallai yw ennill ardaloedd diwydiannol Cymru gan y Blaid Lafur. Tuallan i'r bwrdeis- drefiymae'r pleidleiswyr gyda theyrngarwch diymwad wedi ymgysegru i Sosialaeth fel yr esbonnir hi gan y Blaid Lafur swyddogol neu gan y Blaid Lafur Annibynnol neu ’ r Comiwnyddion. Er gwaethaf ymdrechion medrus i ddychryn y gweithwyr megis gyda'r llythr Zinovieff a bygwth meddiannu enillion y tlawd, er gwaethaf yr apêl sentimental at ddiogel- wch yr Ymerodraeth Brydeinig ac at Iwbili'r Brenin, er gwaethaf rhybuddion echrydus ynglyn â safle beryglus y bunt sterling (ac fe rymuswyd y rhai'n 011 gan gyngor a gallu capteniaid diwydiant Cymru) ni lwyddwyd i amharu dim ar gadernid pleidiau'r aswy yng Nghymru. Hyd yn oed yn y gogledd a'r gorllewin gallem broffwydo mai canlyniad torri ar draws yr hen deyrngarwch traddodiadol at glymblaid Lloyd George fyddai cadamhau ymhellach afael arhosol y pleidiau Sosialaidd ar y wlad. Yng nghymoedd glo y De y mae perthyn i unrhyw blaid nad yw' n cefnogi egwyddorion Sosialaeth bellach yn arwydd bron o waed bon- heddig neu o wrth-ddyngarwch. Yn sicr, fe'i hystyrir fel arwydd o dueddfryd adweithiol neu o ddiffyg deall. Felly, nid oes athro yn sicr o swydd, na phregethwr yn siwr o gefnogaeth, na siopwro ffafr y gweith- wyr a'r rhai di-waith oni all ddangos yn agored ei fod yn ategu pleidiau 'r aswy, neu, o leiaf, oni all guddio ei ragfarn yn eu herbyn. Nid yw hyn yn gondemniad ar bobl Deheudir Cymru. Mae'n arwydd o'r sylfaen eang y mae'r pleidiau Sosialaidd wedi adeiladu eu gallu arnynt ac o'r modd diymwad y mae'r proletariat yn mynnu ymgeisio at eu delfrydau. Y mae'n rhybudd hefyd i unrhyw blaid arall sy'n amcanu at dorri awdurdod "Llafur Ni ellir gwadu na thelir llawer o wasanaeth y wefus i 'r delfrydau hyn gan ymgeiswyr am swyddi a chribddeilwyr, ond byddai'n ffôl condemnio mudiad, a'i ddelfrydau hwythau, oherwydd ffaeleddau bychain ei gefnogwyr mwyaf diegwyddor A byddai'n gamgymeriad o'r mwyaf felly i unrhyw blaid arall e.e. Plaid Genedlaethol Cymru, feddwl bod modd tarfu 'r delfrydau hynny 'n hawdd, (os yn wir y gellir gwneud hynny o gwbl.) Gellir cynnig dau reswm am yr opiniwn unfrydol yma yn y De. Yn gyntaf, natur ein cymdeithas yng Nghymru, sef, ei bod i bob pwrpas ymarferol heb raniadau dosbarth; ac yn ail, y blynyddoedd hirdidoro ddirwasgiad ym myd diwydiant Mae'n rhaid diolch i lawer peth yrí ein hanes a'n datblygiad economaidd am ffurf gymharol ddiddosbarth ein cymdeithas. Niderys dosbarth grymus o uchelwyr a hawl draddodiadol ar barch a thaeog- rwydd y bobl ganddo. Nid oes gan yr ysgweier, "arglwydd y faenor"