Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ffurfio o ryw gorff niwlog o ormeswyr yn Lloegr, gydag ychydig o feistri Llafur Cymreig i gyflenwi'r mesur) tra mae i raddau llai wedi troi at y Blaid Genedlaethol. Lle mae hon wrthi yn y creisis hwn a pha beth a ddylai ei pholisi hi fod ? T. I. J. JONES. Pensaerniaeth a Harddwch Cymru. Beth yw cyfraniad pensaerniaeth at harddwch Cymru ? Daeth y cwestiwn yma i'm pen y mae'n debyg oherwydd fy mod ar hyn o bryd yn byw yn un o bentrefi tlysaf Caint, ac yng nghanol gwlad a ddibynna am ei harddwch a' i hatyniad bron yn gyfangwbl ar ei phentrefi tlysion, ei phlasdai gwych a' i heglwysi coeth a chywrain. Serch hynny nid amcan yr ysgrif hon fydd cymharu pensaerniaeth Lloegr a Chymru er mwyn rhoi clod i'r naill a phigo beiau yn y llall. Gwastraff ar amser fyddai hyn, achos y mae i bob gwlad ac ardal ei phen- saerniaeth gymwys, a hefyd tybiaf fod llawn ddigon o gymharu wedi digwydd yn hanes Cymru yn y blynyddoedd diwethaf heb i minnau hefyd ddechrau ami. Ond o flaen popeth buasai codi pentref tebyg i Chiddingstone, Caint, yng nghanol Cors Trawsfynydd yn ffolineb heb ei ail, achos buasai tai Caint, pe gosodowyd hwynt yng Nghymru, yn gollwng fel basgedi mewn ychydig iawn o amser. Wrth ystyried pensaerniaeth Cymru rhaid cofio mai un o'r dylan- wadau cryfaf ar adeiladu ydyw achosion naturiol megis y tywydd a natur y ddaear. Y mae'r rhan fwyaf o Gymru yn wlad fynyddig, garegog a chorslyd. Mae Cymru hefyd yn un o'r gwledydd gwlypaf yn Iwrob. Y canlyniad yw bod adeiladau Cymru, ag eithrio'r rhai sydd ym Mro Morgannwg, Sir Faesyfed a Sir Fflint, fel arfer yn gryf a thrwm yr olwg, er mwyn bod yn ddiogel yn erbyn y tywydd; hefyd yn tueddu i fod yn llwyd a diaddurn eu gwedd achos bod cerrig Cymru mor anodd i'w gweithio ac mor dywyll eu lliw. Anfantais arall ydyw mai ychydig iawn o hen bentrefi a geir yng Nghymru. Adeiladwyd llawer iawn, os nad y rhan fwyaf o'n pentrefi yn ystod y can mlynedd diwethaf, yng nghanol y Chwyldro Diwyd- iannol, pryd y codwyd tai nid er mwyn harddwch a chysur ond er mwyn helpu budr-elwyr i wneud arian. Nid wyf yn sicr paham y mae Cymru mor dlawd o bentrefi tlysion ond awgrymaf fod gwlad fynyddig yn anffafriol i fywyd pentrefig oherwydd ehangder a helaethrwydd porfa defaid. Hefyd tuedda'r Cymry at godiffermydd bychain iawn, gwasgaredig, tebyg i'r "Crofters" yn yr Alban. Ond rheswm tebycach ydyw'r ffaith na threiddiodd y Normaniaid ond i ran fechan iawn o Gymru ac nid oes llawer o ôl y drefn ffiwdal ar y wlad. Ceir y pentrefi gorau yng Nghymru ym Mro Morgannwg, Sir Frycheiniog a Sir Benfro lIe yr ymsefydlodd y Nor-