Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn y siroedd eraill ceir meini haws eu trin ac felly tipyn gwell graen ar y gwaith, a ffurf i'r tai, a hefyd defnyddir llawer iawn mwy o liw ac o "stucco" nag yn y Gogledd. Gwelir Solfach, Trecastell, Llyswen a Llanymddyfri am enghreifftiau da o hyn, lle y cymysgir melyn, coch, a glâs efo'r calch. Hefyd yn y De ceir tai cerrig o liw "brown" hyfryd iawn ac yn dipyn llai llwm a brwnt yr olwg na llechi. Ond rhaid cofio bod y blynyddoedd yn dechrau gadael eu hôl ar hen dai bychain Cymru ac y mae llawer yn cael eu difetha bob dydd wrth eu hatgyweirio. Tô zinc yn lle tô gwellt, pebble dash brown ar ben yr hen feini hardd, ac asbestos lle bu tô llechi. Hefyd yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf fel canlyniad i'r ymfudo o'r wlad, a thranc y diwydiannau gwledig, y mae llawer o'r hen dai yn wâg ac yn gyflym yn disgyn yn adfeilion os nad ydynt felly yn barod. Ond hwyrach mae'r drwg mwyaf i'r hen gartrefi ydyw y ffaith bod eu cymdogion newydd mor wahanol iddynt. Ceir asbestos, brics a theils ochr yn ochr â meini a llechi nes creu yr anghytgord mwyaf ofnadwy. Beth sydd i'w wneud er sicrhau nad yw hynny o gyfraniad y mae cartrefi Cymru yn ei wneud i harddwch y wlad yn lleihau ? Yn gyntaf 011 atgyweirio yr hen waith gyda'r un defnyddiau, ac yn fwy chwaethus ac yn fwy arhosol. Wedyn codi tai newydd mewn cytgord â'r hen rai. Nid oes raid iddynt fod yn union yr un peth a'r hen rai achos anwybyddu datblygiad fyddai hyn a chodi unwaith eto lefydd i'r ddycau fagu a gwneud ei gwaith erchyll. Ond hawdd yw rhoi ffenestri mwy a phob cysur arall a roddodd y blynyddoedd diwethaf inni ac eto cadw at ysbryd yr hen waith Cymraeg. Dengys gwaith Mr. Alwyn Lloyd a Mr. Clough Williams-EUis hyn yn eglur iawn. Ni chadwant at yr hen draddodiad Cymreig o adeiladu yn gyfangwbl ond y maent wedi ei ehangu ac y mae yn eglur y codwyd eu gwaith yn yr ugeinfed ganrif. Nid oes diben yn y byd mewn gadael i draddodiad sefyll yneiunfan canys fe dderfydd y traddodiad felly. Rhaid i ni wrth arfer y defnyddiau newydd ac ateb gofynion newydd ein hamser wneud ein cyfraniad a chadw y traddodiad yn fyw a cheisio ei wella. DAFYDD WYN ROBERTS. (Gobeithiwn gyhoeddi ysgrif arall gan Mr. Roberts yn rhifyn nesaf y 'Tir Newydd' yn ymdrin ag agweddau eraill ar bensaerniaeth Cymru) Y Bywyd Dinesig a'r Gymraeg. Un o anffodion pennaf Cymru heddiw yw'r bwgan brân hwnnw a elwir yn 'broblem yr iaith'. I ba gyfeiriad bynnag y byddwn ni sy'n ceisio mynediad helaeth i mewn i'n hetifeddiaeth naturiol yn troi, yno y mae'r bwgan hwn i'n hwynebu a'n dychrynu. Yn wir buasem yn