Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ein diwylliant Cymraeg, ystwytho a chymhathu ein cymreigrwydd i gynnwys a mynegi' r gwareiddiad dinesig diwydiannol yr ydym yn byw ynddo heddiw. Y mae'n rhaid cyfaddef mai seisnigeiddio a fu hanes twf y bywyd diwydiannol a threfol yng Nghymru hyd yn hyn-er ei fod yn bwysig cofio mai datblygiad diweddar yw seisnigrwydd ardaloedd megis Morgan- nwg a Mynwy, ymhell ar ôl i'r diwydiannau ymsefydlu gyntaf yn y siroedd hyn. Boed a fo am hynny, erbyn heddiw y mae'r Gilfach Ddu wedi diflannu, ac yn ei 11e, er gwaethaf daroganau pesimistaidd y gwyr doniol hynny sy'n credu bod pob diwylliant yn darfod gyda thranc y Gymraeg, daeth celfyddyd Mr. Rhys Davies, ac ar raddfa is o lawer, gwaith Mr. Jack Jones, i fynegi'r byd newydd yn ei briod iaith. Ac eto y mae lle i gredu bod y drefn drefol a diwydiannol hithau yn dechrau ymgyfnewid. Gyda chymorth trydan rhad, y radio, a chludiad buan, bydd y drefn hon yn datblygu'n fwy ar wasgar, yn mynd yn llai trwsgl ac unochrog, yn treiddio i berfeddion mwyaf anghysbell y wlad. Beth bynnag a ddaw o'n diwydiannau mawrion a'r trefi gorboblog a anwyd ohonynt, nid oes amheuaeth mai'r galluoedd newydd piau'r dyfodol, a chanddynt hwy y gallwn ddisgwyl adfer cytbwysedd rhwng y wlad a'r dref. Eithr cadarnhau (a diwygio, bid siwr), nid difetha y duedd ddinesig a fydd hyn, wrth gwrs; ac os nad yw'r Cymry wedi llwyddo i' w derbyn hyd yn hyn na chael lle iddi yn eu llenyddiaeth, beth mewn difrif fydd hanes y Gymraeg yn y dyfodol ? Os mai 'yng nghefn gwlad Cymru y mae gobaith Cymru Fydd' yn unig, nid yw'r gobaith hwnnw'n ymddangos i mi yn hynod ddisglair. ALUN LLYwεLYN-WILLIAMS. Nodiadau ar Lenyddiaethy Ganrif Hon. Y mae gan y Cymro fantais fawr ar aelodau llawer cenedl arall, megis cenedl y Saeson, neu'r Ffrancod, neu'r Eidalwyr. Megir y Sais, a'r Eidalwr, a'r Ffrancwr ar un iaith yn bennaf, ac nid agorir y drws i drysorau ieithoedd eraill hyd yn ddiweddarach. Caiff y Cymro o'r dechrau, ar y llaw arall, bob cyfle i siarad ac i ddarllen dwy iaith. Ond y mae i Cerberus fwy nag un pen ac i gwestiwn iaith fwy nag un ochr. Wrth archwilio dau wyneb yr hyn a elwir yn fantais i'r Cymro, câf fod i'r anfanteision rym cryfach a lletach nag y sylweddolir yn gyffredin. Try meddwl dyn bron yn naturiol wrth siarad am iaith, at weithiau a gynhyrchir yn y iaith honno. Dysgir y Sais, y Ffrancwr a'r Eidalwr, o enedigaeth i sylwi ar wrthrychau, ac i fynegi eu barn a'u meddyliau amdanynt mewn un iaith. Daw cyfle i werthfawrogi barn sylwedyddion o genhedloedd eraill yn ddiweddarach. Ond atodi a chyfoethogi a wna'r sylwadau newydd yn hytrach na distrywio unrhyw feddyliau sydd