Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O HYN ymlaen, cyhoeddir TIR NEWYDD gan Hugh Evans a'i Feibion, Cyf., Gwasg Y BRYTHON, Lerpwl. Dylid anfon tanysgrifiadau a phob gohebiaeth, ag eithrio cyfraniadau llenyddol, i Wasg Y BRYTHON, 356-360 Stanley Road, Lerpwl 20. Gellir anfon TIR NEWYDD drwy'r post i unrhyw fan yng Nghymru neu ym Mhrydain Fawr. Y tanysgrifiad am flwyddyn (pedwar rhifyn) yw 2/- neu 7g. am un rhifyn. Croesewir unrhyw gyfraniad i'r TIR NEWYDD, boed ysgrif ar ba bwnc bynnag, boed stori, boed farddoniaeth. Anfoner hwynt at y Golygydd, 33 Heo1 Ninian, Parc y Rhâth, Caerdydd. Ni ellir anfon llawysgrifau yn ôl nac ateb llythyrau onid amgaeir gyda hwynt amlen wedi ei stampio a'i chy- feirio. Ni thelir am gyfraniadau. Nid yw'r golygydd o angenrheidrwydd yn gyfrifol am syniadau a all ddi- gwydd mewn ysgrifau a gyhoeddir yn y TIR NEWYDD.