Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwelsom yn eglur bob craig, hafn a chopa. Yr oedd yr hen gyfeillion yno i gyd-Arenig Fawr, Aran Benllyn, Aran Fawddwy a Chader Idris — enwau sydd yn llawn swyn i'r dringwr. A'n calonnau'n llawn balchder, sylwasom arnynt i gyd a theimlo ein bod wedi gorchfygu anawsterau ac ennill gwobr werth ei chael Ie, y dringwr yn unig a ŵyr am wir ogoniant y mynyddoedd. WYNFORD VAUGHAN THOMAS. (Mr. Vaughan Thomas ei hun piau'r darlun o'r Wyddfa a gynhwysir yn y rhifyn hwn o'r Tir NEWYDD. Diolchzon iddo am ganiatâd i'w brintio). Lugburt. Bach iawn o arddwr wyf, a dweud y gwir; bach iawn yw'r ardd ei hunan, ond y mae'n drech na'i garddwr yn fynych. Er hynny, pe bawn yn ei llwyr esgeuluso neu ei throi'n lawnt-amrywiad ar yr esgeuluso-fe deimlwn yn euog o frad, nid o afradu, ond brad yn erbyn "crefydd natur" fy nhadau a'm bod yn gwadu duw dienw eu gerddi; fy mod yn brin o'u parchedigaeth hwy, yn anffyddlon i'w traddodiad, a bod olyniaeth offeiriadol arddol y llwyth yn dihoeni ac yn diflannu o'm hachos i. Encilio fyddai ei throi'n lawnt, rhyw fath o "golli ei grefydd a throi i'r Eglwys," gan mai duw arall yw duw'r lawnt. Nid bod fy nhadau'n ben garddwyr; ni olygaf wrth "fy nhadau" chwaith hynafiaid fy llinach i, ond y pennau teuluoedd yn y pentref hanner gweithfaol hanner tyddynnol hwnnw lle'm codwyd i, a driniai eu gerddi bob un. A chan nad wyf bellach yn byw yng nghanol y llwyth, a bod i'm gardd- nid o'm hachos i — lai o bwysigrwydd yn fy mywyd a'm bywoliaeth nag sydd i erddi'r llwyth, rhyw deimlo y byddaf wrth ymhel â'r ardd mai dynwared wyf; nid gwneuthur y gwir beth ei hun, ond ei ddynwared, fel alltudion sydd wedi ymgolli ym mywyd ac arferion gwlad eu halltudiaeth, yn mynnu, ar ddyddiau gŵyl eu henwlad, gynnal gwasanaeth neu gadw gŵyl ar raddfa fechan, i ddynwared yr ŵyl fawr. Ac yn anad neb fe'm clywaf fy hun, neu fe'm daliaf fy hun wrthi, gan mai rhywbeth diarwybod heb ei ewyllysio yw, yn dynwared fy nhad; nid efelychu ei ffyrdd ef o ddodi a thrin yr ardd-pôl sydd gennyf i'n fynych pryd yr arferai ef raw goes-hir, fforch i gau'r rhych a llyfnhau'r pridd yn lle rhaca, dibynnu ar fy amcan i gadw'r rhychau'n gymwys o ben bwy gilydd,-ond dynwared ei agwedd tuag at yr ardd; clywed yr alwad a glywai ef, arfer yr un sylwadau, ac weithiau siarad yn yr un dôn neu wneud yr un sŵn tuchan ag a wnâi ef pan fyddai yn ei blyg yn siarad dan ei lais ag ef ei hun yn diffinio pob gweithred cyn ei gwneuthur; palu'r un fath, poeri'r un fath; mewn gwirionedd, dau fath o ddynwared: clywed fy mod weithiau yn llenwi ei swydd (ac y mae mwynhad anghyffredin pan deimlo dyn ei fod yn llenwi swydd ei dad, er mor ddistadl fo honno), ac yn meddu'r un dymer ysbryd, ac eto yn yr act, yn ei watwar yn ddiniwed.