Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sosialaeth yng Nghymru-Ateb. Fe'm cymhellwyd i fod mor hy â gosod yr ychydig sylwadau hyn wrth ei gilydd ar ôl hir boeni uwchben erthyglau Mr. T. J. Jeffreys Jones ar Sosial- aethyng Nghymru. Haeddant bob ystyriaeth am eu bod yn ymgais gan Gymro ifanc a ddisgyblwyd mewn astudiaeth o economeg i amlinellu ei ddadansoddiad o natur cymdeithas yng Nghymru, tymer meddwl arhosol y werin ar bynciau gwleidyddol, ac ar sail hyn oll y mae'n pwyso ar yr unig blaid boliticaidd sy'n arddel Cymru fel maes ei llafur i'w chyhoeddi ei hun yn Sosialaidd. Pwysig cofio y bu rhai o Genedlaetholwyr Cymreig mwyaf eu hoes yn Sosialwyr- nid oes angen ond enwi R. J. Derfel ac E. T. John. Na thybied neb felly bod gwal ddiadlam rhwng Sosialaeth a Chenedlaetholdeb, yn enwedig yn eu perthynas â Chymru. Y mae hefyd gryn fesur o gytundeb rhwng safbwynt Mr. Jones a neges y Blaid Genedlaethol fel yr amlygir hi mewn datganiadau swyddogol, a hefyd yn gyson gan aelodau blaenllaw. Craffwn yn gyntaf ar y tir cyffredin gwerth- fawr hwn rhag tybio o neb nad oes ond anghytuno. Yr ydym yn gytûn ar bwnc ymreolaeth. Anodd gennyf weld sut y gall Mr. Jones gysoni hyn â'u ymlyniad wrth y dyb Farxaidd fod trefniadau politicaidd yn dilyn ac yn dibynnu ar rai economaidd. Yr ydym ni yn disgwyl y daw ymreolaeth pan gyfyd ysbryd newydd yng Nghymru, ac nid yn sgil cyfnewidiadau economaidd, er y gall y rheiny helpu'r Cymro i sylweddoli ei gyflwr. Cyd-brofwn anfodlondeb llwyr ar y gyfundrefn economaidd fel y mae heddiw, gyda'i chyferbyniadau gwarthus o gyfoeth a thlodi, trefniadau mas- nach a diwydiant gymaint yn nwylo'r ychydig nad yw'r lliaws ond cyfle iddynt elwa ar eu traul. Ni thybia neb ohonom fod ennill democratiaeth boliticaidd i Gymru yn ddim ond gwir gyfle i gychwyn ar ein gwaith o ddifri. Yr Athro Daniel yn Ysgol Haf Blaenau Ffestiniog, 1933, a agorodd fy llygaid yn llawn i weld twyll rhyddid i bleidleisio ac i ethol ein senedd ein hunain, heb sicrhau hefyd ryddid cyfartal i bennu amodau ein galwedigaeth. Er bod Mr. Jones yn ein cyffelybu i Ryddfrydwyr Seisnig y ganrif ddi- wethaf, yr ydym yn bendant fel yntau yn gwadu erthygl bwysicaf eu credo economaidd hwy, sef ffydd yn yr "anweledig law" a "laisser-faire." Ni chlyw- ais neb erioed yn fwy llawdrwm ar y gred hon na Mr. Saunders Lewis. Fe gydnabyddwn hefyd fod yna wahaniaeth mewn tymer meddwl rhwng y gweithiwr Cymreig a'r un Seisnig, i'r gwahaniaeth gael ei gryfhau gan y Dirwasgiad affwysol yn ein cymoedd, ond ei fod yn hŷn o lawer iawn. Dywed Mr. Jones nad taeogion a chaethion oedd mwyafrif pobl Cymru yn yr oes- oedd canol, a gwyddom mai fel arall yr oedd hi yn Lloegr. Nid oes angen profiad maith gyda'r gweithwyr Seisnig i wybod bod olion hanes yn hir yn cilio, ac y mae llais etholiadau'r ganrif hon yn huawdl ar y pwnc. Cofiaf siarad am y peth â swyddog pwll glo o ardal Tonyrefail sydd bellach mewn gwaith cyffelyb yng Nghanolbarth Lloegr. Ni ddysgwyd ef cyn mynd yno bod