Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nad yw peirianwaith politicaidd namyn moddion gweithredu. Y mae'n saf- bwynt drwyadl Farxaidd a materol am natur gwladweiniaeth. Gofynnais i'r dadleuydd i ba blaid y perthynai, a phan gefais ei fod yn aelod o'r Blaid Lafur, dangosais iddo mai polisi'r blaid honno yw sicrhau buddugoliaeth boliticaidd yn gyntaf (er, wrth gwrs, y gall ar yr un pryd gael ei thraed tani'n well trwy gryfhau eu hundebau llafur a chymdeithasau cydweithredol), ac yna wedi cip- io'r awenau trwy ddeddfwriaeth ennill gafael ar y pwerau economaidd. Myn- nais mai dyna oedd profiad Comiwnistiaid Rwsia, sef cipio'r awenau politic- aidd, ac yna eu deddfu eu hunain i amgenach meddiant ar fasnach a diwydiant. Yna ar ôl sicrhau meddiant, yr oedd pob agwedd o fywyd y wlad yn cyd- ddylanwadu ar ei gilydd. Ni fwriadodd neb i'r cyfreithwyr a benodwyd gan y Blaid lunio Cyfan- soddiad i Gymru a barhai am byth. Yr amcan oedd diffinio'r ymreolaeth a hawliwn oddi ar Loegr. Ein tasg ni wedyn fydd gweithio allan ein hiechyd- wriaeth economaidd, ac fel y bydd Cymru yn newid ei threfniant economaidd (ac yn sicr y gwna), fe fydd adlewych hynny yn siwr o gyrraedd y Cyfansoddiad yn ôl y gofyn. Campwaith y Cyfansoddiad awgrymedig fel y mae yn awr yw ei fod yn diffinio'r ymreolaeth a dybiwn sydd angenrheidiol mewn termau sydd yn hollol gyfansoddiadol i Loegr eu caniatáu, sef Status Dominiwn. Nid oes y dim lleiaf ynddo i lesteirio datblygiad economaidd i gyfeiriad y Sosialaeth fwyaf eithafol, a bwrw mai hynny fydd dymuniad mwyafrif sylweddol o bobl Cymru. (I'w barhau) D. MYRDDIN LLOYD. Y Pelican. Diawliai Ifan Gronow dan ei wefus wrth osod y bwyd a'r coffi ar y ford. Rhaid nôl dau sandwich eto. Diawliai'r dynionach a'r merchetach oedd yn mynychu clwb "Y Pelican," dim ond am fod y lle'n rhad ac yn honni bod yn gelfyddgar. Pam yn y byd y bu ef mor ffôl â chytuno â Scan a Charlie i fentro ar y fath fusnes! Drwy'r dydd yn rhydd ganddo i baentio! Drwy'r dydd! Pedair awr rhwng cwsg a bwyd, a bwyd eto a gwaith. Gwaith ynghanol y fath fwr- llwch, mwg tybaco a mwg canhwyllau, yn tendio "ynys werdd Celfyddyd a Bohemiaeth ynghanol diffeithwch politicaidd, ariangar Washington, D.C. ys dywedai Scan gynt wrth gymeradwyo ei gynllun o ennill bywoliaeth drwy gynnal clwb. "Ynys Werdd!" Yn ei ddiflastod, gwenodd yn chwerw wrth osod y sandwiches ar y ford. Yr oedd hi wedi un o'r gloch. Pam nad âi'r dynionach yma i'w gwelyau, yn lle llyncu a llymeitian a pharablu, parablu'n ddidor am gelfyddyd a llên,