Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"A gwrandewais gyrn ei duwiau." Cyrn ei duwiau. Amhosibl rhoddi'r rheiny ar ganfas. Y fath giwaid di-chwaeth o Leighton a'i ysgol. Ond fe ddylai fod yn bosibl i lunio natur heb dduwiesau pinc a gwyn. Mynydd- oedd Cymru, a'ch holl ffurfiau a'ch lliwiau! Mi a'ch trechaf eto. Duw'r fath gamp! Ond rhaid gweithio'n gyntaf a llwyddo, cyn dychwelyd.. Yfory, mi weithiaf fel ffwl. O na f'asai'r boblach yma'n mynd. Ar unwaith, i mi fynd ati i gysgu ac yna gweithio. Yn enw'r Tad, rhywrai eto? mae hi bron yn ddau-a pharti gwyllt wrth y sŵn. Elizabeth! "Ifân! My own Welshman with the Russian name. Dyma ni wedi dyfod i'th nôl di-same as we fixed, remember?" A oes raid iddi gyfathrachu â'r fath daclau, ac o bopeth, a oedd rhaid dyfod â nhw gyda hi yr amser hyn o'r nos. Do, mi addewais, ond beth am hynny? "Sing for us. Cân i mi — cân Gymraeg." Ar yr helyg o'u mewn y crogasom ein telynau. "Paid â mwmial, Ifân. Speak up." Canys yno y gofynodd y rhai a'n caethiwasent i ni gân "Maybe you're tired, honey?" Ydw, 'merch i, 'rwy' wedi blino, wedi blino ar siarad gwag a rhodres celfyddyd. "I know why you won't talk. You're blue." Y sarhad penna'. Blue! Wedi imi weld glesni'r mynyddoedd. O, be' di'r iws? 'Ddeallai hi ddim, dim byth. Dyma hi eto- "Dywed bopeth wrthyf i. Byddi'n well wedyn. I'm takin' you home, see?" JOHN GRIFFITHS. Y Ddrama Radio. Diddorol dros ben ydoedd erthygl Mr. Dafydd Gruffydd ar "Y Ddrama Sain" yn rhifyn Haf y TIR NEWYDD. Gwyddom fod dwy farn ar y ffurf yma ar y ddrama; y naill, nad yw'n haeddu ystyriaeth o gwbl a'r llall mai hyhi, oherwydd posibiliadau diderfyn ei dylan- wad, sy'n hawlio'n sylw penna', yn enwedig, fe ddywedir, pan gofiwn ein bod ar drothwy byd eang a newydd y "Pell-welediad." Fe dâl i ni gadw meddwl agored ac effro ar weithgarwch cynhyddol yr ochr yma i Fudiad y Ddrama yn ein gwlad, oblegid gall y Ddrama Radio fod o ddy- lanwad mawr--er gwell neu er gwaeth. Hyderwn yn fawr fod tymor arbrawf noeth wedi ei dreulio gennym. Natur- iol iawn ydoedd i newydd-deb y peiriant dynnu sylw oddi ar y ddrama ei hun, ac i'r moddion fynd yn bwysicach na'r mater. Bellach, hyderwn y caiff ei