Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYLWYTH TEG Gan HUGH EVANS AwDUR "CWM EITHIN" Darluniau artistig gan T. J. BOND Cyfrol gwbl wahanol bob llyfr Cymraeg arall, o ran ei chynnwys, ei chynllun, ei diwyg a'i darluniau Barn yr Athro W. J. Gruffydd "Dyma gasgliad campus o hanes y Tylwyth Teg wedi ei hel at ei gilydd â gofal manwl ac â pharch anghyffredin at y gwrthrych. Anodd iawn yw peidio â gor-ganmol gwaith Hugh Evans,-mae mor ysgolheigaidd, ac eto mor feistraidd o syml; mae'r Gymraeg yn ei llawn ddisgleirdeb yma. Bydd plant yn darllen y llyfr hwn, fel na all neb ond plant, a mwynheir ef gan wŷr a gwragedd mewn oed gyda'r un awch. Ond, heblaw hynny, ni all yr un ysgolhaig wneuthur hebddo, pan fynno wybod am y deyrnas fawr hon sydd ar ein ffiniau, y cymdogion bychain sydd yn byw wrth ein drysau. Unwaith eto, nid oes gennyf ond gresynu bod swildod ac amgylch- iadau'r byd wedi cadw Hugh Evans rhag dechrau ysgrifennu hanner can mlynedd yn gynt, ond er iddo aros cyhyd, gwnaeth ei 1e yn sicr ymysg ysgrifenwyr mawr rhyddiaith Gymraeg." Maintioli, 81 2" x 7'. Rhwymwyd mewn lliain gwyrdd hardd Pris 3/6 Argraffiad Prin o drigain copi—Dau Gini YNG NGWASG Y BRYTHON 356-360 STANLEY RD., LIVERPOOL 20