Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y MAE'N rhaid ymddiheuro i'n darllenwyr am fod y rhifyn hwn o'r TIR NEWYDD braidd yn hwyr yn ymddangos. Pwysau gwaith arall ar y golygydd sy'n cyfrif am hyn, a hynny hefyd a gyfrif am ddiffyg nodiadau golygyddol y tro hwn eto, er bod llawer o bethau pwysig iawn yn galw am sylw. Croesewir unrhyw gyfraniad i'r TIR NEWYDD, boed ysgrif ar ba bwnc bynnag, boed stori, boed farddoniaeth. Anfoner hwynt at y Golygydd, 33 Heol Ninian, Parc y Rhath, Caerdydd. Ni ellir anfon llawysgrifau yn ôl nac ateb llythyrau onid amgaeir gyda hwynt amlen wedi ei stampio a'i chyfeirio. Ni thelir am gyfraniadau. Nid yw'r golygydd o angenrheidrwydd yn gyfrifol am syniadau a all ddig- wydd mewn ysgrifau a gyhoeddir yn y Tir NEWYDD. Gallwn anfon TIR NEWYDD drwy'r post i unrhyw fan yng Nghymru neu ym Mhrydain Fawr. Y tanysgrifiad am flwyddyn (pedwar rhifyn) yw 2/—, neu 7c. am un rhifyn. Anfoner tanysgrifiadau, a phob gohebiaeth ag eithrio cyfraniadau llenyddol, i Hugh Evans a'i Feibion, Gwasg Y Brython, 356-360 Stanley Road, Lerpwl 20.