Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y mae Christmas Miniature i gerddorfa linynnol, Ar Fore Nadolig," i'r piano, Carol i leisiau cymysg, a darnau ar gyfer dau lais. Ni chyfansoddodd lawer, ond y mae ei waith bob amser o safon uchel. Nid oedd mor Gymreigaidd â rhai o'n cyfansoddwyr ieuainc eraill, ond, serch hynny, y mae ei waith yn haeddu sylw ei gydwladwyr, a'u gwerthfawrogiad. VI. O'r Barri, Sir Forgannwg, y daw Grace Williams, a merch ydyw i Mr. W. M. Williams, arweinydd Côr Bechgyn Romilly. Cafodd ei haddysg gerddorol yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth yn Llun- dain (o dan Vaughan Williams), ac wedi hynny, yn Wien, o dan yr enwog Egon Wellesz. Ar hyn o bryd y mae yn ddarlithydd cerddoriaeth yn un o Golegau Hyfforddi Llundain. Dyma gyfansoddwr arall sydd yn siarad iaith gerddorol y dydd yn huawdl. Dylanwadodd ei harhosiad ar y cyfandir yn fawr ar ei meddwl, ac anodd ar brydiau yw canfod arddull bersonol yn ei gweithiau. Mae'n meddu ar dech- neg rhagorol, ac, fel Kenneth Harding, dengys gryn feistrolaeth ar ymdrin â gwahanol adrannau'r gerddorfa. Ymysg ei darnau mawr y mae'r Rhag- ddarn (overture) Hen Walia (lle y defnyddia nifer o hen alawon Cymru), Suite i gerddorfa lawn, a Concert Overture,gwaith a gafodd glod uchel yn un o gystadleuaethau'r Daily Telegraph yn ddiweddar. Y mae Grace Williams wedi trefnu rhai o'n halawon mewn modd diddorol iawn. Credaf y bydd Cymru'n teimlo'n falch iawn ohoni hithau. Yn ddiau, y mae dyfodol cerddorol Cymru mewn dwylo diogel, a gallwn edrych ymlaen at ddydd pan fyddwn o ran ein cyfansoddwyr yn sefyll ar dir llawer uwch nag y buom erioed o'r blaen. MANSEL THOMAS. (Oyda chaniatdd y B.B.C.). Apolos yn Dyrchafu'r Faner Goch. RHAI NODIADAU AR FARDDONIAETH SAESNEG HEDDIW. [Cyhoeddwn yma ysgrif gan newyddiadurwr ifanc o Sais a beirniad llenyddol disglair, ar feirdd newydd comiwnyddol Lloegr. Ni bu ysgol bwysicach yn llenyddiaeth ein cymdogion ers tro byd, a chredwn y talai i lenorion ieuainc Cymru sylwi'n fanwl ar gynnyrch a datblygiad yr ysgol gyfoes hon—^yn enw- edig ganfod sefyllfa barddoniaeth yn ein gwlad ni ar hyn o brydyn bur druenus. Gobeithiwn gynnwys ysgrif ar y sefyllfa yng Nghymru yn y rhifyn nesaf]. Y mae'n rhaid wrth chwyldro ar farddoniaeth yn awr ac yn y man. Astud- iwch lenyddiaeth unrhyw wlad a gwelwch fod hynny'n wir. Daw barddon- iaeth yn rhy hawdd yn degan i athrawon colegau a choeg-Ienorion-ysgrifenwyr na allant wneud dim ond dynwared dulliau meddwl eu rhagflaenwyr a'u