Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Fan. Brynhawngwaith diwedd haf ydoedd. Yr awyr fel y grisial yn sgleinio'r wybren, tipyn yn farwaidd yn y dref, mae'n wir, ond o fwrw tua'r gogledd tuag at Gastell Morlais, diflannai'r llesgedd. Yn y caeau cyntaf porai'r defaid ar laswellt grinwyd gan haul, y perthi ar ymyl y lôn yn llawn gan fwyar ac yn wyn gan lwch gynhyrfwyd gan wynt ac eto, er codi o'r awel, teimlwn mai gormodedd ac afradlonedd di-eisiau ydoedd yr holl ffrwythlonder ar Iwyn a choed a chae,-rhywbeth tebyg i'r hyn a deimlwn o weled mochyn pan fo'n ymdrybaeddu ym mwd y clôs wedi bwydo'n dda. Ond o grwydro ymhellach i'r heol a arwain i Bontsarn mae'r borfa'n lasach; croeser yr heol honno, yna drwy'r glwyd haearn, a theimlir bod y cyhydedd wedi'i groesi. Dechreuwn gerdded ar borfa ysbyngaidd y bryniau, y borfa sy'n rhoddi sbonc i'r troed, lle mae awelon agored y llechweddau yn llanw'r ysgyfaint. Y mae dyn ar delerau da â'i dduw yma, diolcha iddo am gam cadarn, y figwrn yn plannu'r troed yn sicr, am goes gref i droedio'r bryniau, a theimla'r ynni yn ffrydio drwy'i gymalau. Y tro hwn crwydrais dros y llechweddau hyn i fyny i gopa'r castell, ac yno yn y pentwr cerrig eisteddais i gymryd hoe. Nid oedd y dadlau am hanes y castell a'r ffrwgwd rhwng De Clare a De Bohun yn mennu dim arnaf, ond yn unig gwelwn gwarre'r Faenor draw yn y pellter, y cerrig llwydion drwy'r caeau gleision, clywed yna y corn rhybudd, ac, ymhen eiliadau, dacw gymylau o lwch llwyd gydag atsain pell yr ergyd drom fel pe na bae unrhyw gysylltiad rhyngddynt. Yma'n nês gwelir y relwê yn ymgripian i fyny'r cwm ac yn mynd ar goll yn y coed wrth waelod banc y Castell, a rhyw drên ganrif oed, gallwn feddwl, yn ergydio'n drafaelus am Bontsarn-ernes o ddyddiau clir eto gan nad oedd ager yn codi o'i gorn. Glyna'r relwê wrth ochr cwm afon stwrllyd Taf Fechan, cwm cul, coediog, igam-ogam, ac ymhell draw ar ei flaen glochty eglwys y Cefn ac ymhellach eto y cymoedd islaw Merthyr. Tua'r dwyrain gorffwys Dowlais-tref anhunedd erchyll, a chredwn fod y lefiathan cysglyd hwnnw ar ddihuno'n sydyn. O'r corpws hwn arwain llinell o fryniau ymlaen fel bwa hyd flaenau llyn dŵr Taf Fechan, sy'n ymestyn am bellter bron hyd droed y Bannau, y Bannau y gwelir eu copa o ben Castell Morlais. O droi ac edrych ar gopau'r Bannau cynefin hyn cofiais lawer prynhawn y bûm yn eu dringo, ac un yn arbennig pan gyfarfu tri ohonom yng nghyffordd wladaidd Ponsticill, a theithio'n araf sicr yn y trên bach gysact ar lannau'r llyn hyd Dorpantau bwrw tu ôl i orsaf Torpantau ac ymlaen dros ffordd garegog am Graig y Fan Ddu, a thynnu at ei phen a cherdded ar ben y grib fawnog ac i lawr ar ein pennau i gwm y Bannau. I fyny eto dros y Fan gyntaf, yna i lawr a gorffwys am y bwyta hanner dydd, ac yfed y seidir pigog un ohonom yn tanio'i getyn cyn ymosod ar Ben y Fan. Dringo a fu wedyn nes cyrraedd ohonom ei phen,­dringo dros laswellt, nid craig, dringo lIe nad oes fawr afael