Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i'r troed. Aros ar Ben y Fan a syllu ar y gwastadedd o amgylch Aberhonddu a nythai ymhell draw yn eithaf sicr a chlyd. Bygythiai'r glaw, a throsodd i'r Corn Du hir, twmpathog, ac eilwaith ymlaen at y grib fawnog lle gwelwn nifer y cymoedd yn plethu yn ei gilydd, yn ymestyn tua'r Bannau yn wagle- oedd tywyll. Fe ledai'r glaw mân gludog i fyny'r cymoedd hyn a'n dal ni'n tri-ond fe welsom y Bannau ar eu gorau dan niwl trwchus a ostyngai'n is ac yn is, nes eu cuddio'n llwyr. Yna bu rhaid i ni fentro a bwrw yn syth i lawr ochr y gefnen goch ei phridd rhag ein lluddias gan y niwl,-wedi ein gwlychu hyd y croen. Ond ar y diwedd, wedi cerdded i Dolygaer, cyfarfum â rhyw hen wr oedd yn byw ar ei ben ei hun,-a gwell fyth, Cymro ydoedd. Bu'n clebran ac yn trin a thrafod pob pwnc dan haul yn ei dŷ dros gwpanaid o dê a baratodd i ni. Un o'r hen fechgyn y clywch sôn mynych amdanynt, heb gwrdd â hwy eich hun, ydoedd hwn. Yno 'roedd yn byw, yn hollol ar ei ben ei hun, mewn ty na fu bys gwraig ar y lle, yn edrych ar ddyfroedd llonydd y llyn dŵr hir, ac fe glywsom y gylfinhir yn crio'i chân leddf yn yr unigedd llwyd. Y prynhawn hwn ar y Morlais cwrddais â rhyw ddyn llwyd ei wyneb, main ac esgyrniog, a sach ar ei gefn. Cyfarchodd fi, a chefais hanes yr helynt a gawsai ar ei blot llysiau gan ryw adar a ysbeiliai'r cyfan. Sylwais bryd hynny ar ryw adar duon tebyg i frain yn hedfan uwchben, rhyw greaduriaid hyll nad oeddynt frain. Dywedodd yr hen wr wrthyf beth oeddynt, a throdd ei gefn ar- naf, a'r olwg olaf a gefais arno oedd gweled ei sach fel pe tae yn cael ei chludo gan ryw allu anweladwy dros yr ochr serth caregog ond yn fy myw ni allaf gofio enw yr adar duon lladronllyd hynny. D. LLEWELYN WALTERS. Llyfrau Rhan Olaf 1936. Efallai y dylwn ddechrau'r sgwrs hon trwy gyfeirio at gyfrol y Parch. J. J. Williams, Y Lloer a Cherddi Eraill, oherwydd ymddangosodd ychydig yn rhy ddiweddar i mi ei chynnwys yn y sgwrs a roddwyd ym mis Mehefin. Fe'i cyhoeddwyd gan Wasg Aberystwyth, ac y mae'n cynnwys dwy awdl fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sef Y Lloer a Cheiriog,' yn ogystal â'r telynegion a'r englynion a'r amrywiol ganiadau a gyfansoddodd o bryd i'w gilydd. Diau mai gwaith mwyaf adnabyddus y bardd hwn ydyw awdl Y Lloer,' awdl a swynodd ddarllenwyr Cymraeg, ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, pan wobrwywyd hi yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, a phan gafodd Syr John Morris-Jones y fath hwyl wrth ddyfynnu darnau ohoni yn ei feirn- iadaeth. Efallai y bydd darllenwyr Cymraeg heddiw yn tueddu i'w beirniadu yn herwydd diffyg gweledigaeth brydyddol yn y cynllunio. Awdl' gynhwys- fawr ydyw, a gallai gwr heb fymryn o ddychymyg bardd fod wedi ysgrif- ennu'r Cynnwys a geir ar dop y tudalen cyntaf. Nid oes ryw lawer o