Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mudiad y Werin. Ni ellid cael cartref mwy addas na Bangor i'r syniad o uno sosialwyr a chen- edlaetholwyr Cymru. Gallodd dau goleg enwadol droi'n un yno, a naturiol yw disgwyl yn hyderus am ryfeddodau llai. Ond, yn wir, dyma syniad gwych a gobeithiol. Yn ystod y misoedd di- wethaf siomwyd llawer o ddynion ieuainc pleidiau'r chwith yn aruthr. Yr oeddym ni, fyfyrwyr dwy neu dair blynedd yn ôl, yn genhedlaeth o optimist- iaid. Gwyddem fod i'r wlad Lywodraeth o Dorïaid (yn dwyn yr enw barddol National Government), ond yr oedd etholiad cyffredinol heb fod ymhell. Gwyddem hefyd fod y Llywodraeth honno wedi dechrau ar y gwaith caredig o Ffasgeiddio'r wlad-dechreuasant yn gynnar gyda Heddlu Llundain: gwelsom ddemocratiaeth yn torri'n yfflon yn y naill wlad ar ôl y llall. Ond ar waethaf hyn oll, derbyniem air dynion fel Mr. Laski fod cyfle o hyd i gadw Ffasgiaeth draw rhag y wlad hon, a hyd yn oed obaith am osod trefn a dosbarth ar bolitics y cyfandir. Nyni, mewn gair, oedd cenhedlaeth y penderfyniad estrysaidd hwnnw-na fynnem ymladd dros na'n brenin na'n gwlad, gan led- gredu na fyddai raid inni byth. Eithr gwelsom ddiflannu o'n gobeithion o un i un. Adeg yr Etholiad twyllwyd y wlad yn ddidrugaredd gan Mr. Baldwin, un o'r party managers cyfrwysaf a fu erioed cafodd y Llywodraeth "Genedlaethol" fwyafrif mawr arall drannoeth dyma hwy'n peidio â chymryd arnynt bellach gefnogi Cynghrair y Cenhedloedd, a thradwy dyma ni'n ôl yn 1914 — y naill wlad yn erbyn y llall, a phob un am y gorau yn ad-arfogi ar gyfer Armagedon. A sôn am gadw Ffasgïaeth draw o Brydain-nid oedd bellach ond gair Mr. Baldwin rhyngom â gorfodaeth filwrol. At hyn oll gwelsom bleidiau'r chwith wedi eu rhannu a'u rhwygo drwyddynt. Dangosodd y Blaid Lafur ei bod hi'n gyfangwbl yn nwylo'r Undebau. Yn wir, yr oeddym wedi ofni hyn o'r blaen, wrth gofio am ymddygiad y rhan fwyaf o aelodau Seneddol y blaid honno adeg ffurfio'r Llywodraeth Genedl- aethol gyntaf; ni wyddent beth ar y ddaear i'w wneud oni ddaeth y gair o Transport House, ac yna wele'r gweithwyr cyflog yn gwneud eu meddyliau i fyny ar amrantiad (a rhyfedd mor debyg i'w gilydd fu eu hareithiau hwyliog y Sadwrn canlynol !). Fodd bynnag, newidiodd yr Undebau eu meddwl, a gwelsom Transport House a Whitehall yn cydweithio'n ddedwydd ddigon a chyhuddo'r sosialwyr mwyaf argyhoeddedig o fod yn anffyddlon i bolisi'r Blaid Lafur Bu raid inni roi i fyny pob gobaith y safai'r rhyddfrydwyr yn bendant yn erbyn y Llywodraeth, a rhwng y cwbl nid rhyfedd i lawer o bobl ieuainc deimlo'n ddigon isel eu bryd. Gofidiem ymhellach fel Cymry fod llawer o'n cyfoedion yn rhoi llonydd i'r holl broblemau dyrys hyn ac ymgolli ym mhync- iau llai pwysig. Gofidiem, nid am na chredem mewn diogelu ein hiaith a'n diwylliant, eithr am y tybiem y gallai'r iaith Gymraeg ofalu drosti ei hunan