Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodiadau'r Golygydd. Mewn ysgrif yn y rhifyn diwethaf dywedais fy marn am yr Eisteddfod, ac, ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth, ni welaf fod angen newid y farn honno. Eto, ni fynnwn i neb fy nghamddeall, oherwydd y mae'n rhaid arnaf gydnabod fy mod ym Machynlleth wedi gweled unwaith yn rhagor un peth o'r gwerth mwyaf mewn eisteddfod, sy'n gosod arwyddocâd arbennig ar y sefydliad. Ei gwreiddiau cwbl werinol yw'r peth hwnnw. Byddaf yn meddwl weithiau, os caf fod mor hy am eiliad â rhestru TIR NEWYDD ymhlith ceidwaid celfyddyd y wlad, fod rhai ohonom, yn ein hymgais i gadw safonau teilwng ar y celfyddydau cain, yn ormod o ddifrif gyda'r pwnc, yn rhy uchel ein haeliau, os mynnwch. Y mae'n wir nad yw safonau cerddoriaeth a llen- yddiaeth yr eisteddfod yr hyn a allent fod, nad yw awyrgylch y cystadlu bob amser yn iachus. Y mae'n wir hefyd fod angen rhywrai i osod y safonau uchaf posibl ar bob math o gelfyddyd. Ond y mae'n werth cofio bod deu- ddeng mil 0 bobl, llond y babell fawr, yn fodlon gwrando ar y naill gôr ar ôl y llaIl yn canu darnau aruchel, neu ar feirniadaeth hir yr awdl, a gwylio pasiant y coroni a'r cadeirio. Pa beth bynnag yw amcanion llawer o'r gwrandawyr, pa beth bynnag yw safonau'r canu, dyweder, y mae cynnull cymaint ynghyd o bob rhan o'r wlad, yn werin bobl gan mwyaf, i ŵyl ddiwylliannol yn gryn gamp, y gallwn ymfalchïo o'i blegid. Nid wyf yn siwr nad yw hyn ynddo'i hun yn cyfiawnhau'r Eisteddfod. O leiaf, mae'n dda fod cynifer yn ym- ddiddori mewn rhyw fath ar gelfyddyd, yn hytrach na threulio'u holl egnïon i wylio rasus cŵn, neu gampau corff dyn yn unig. Nid yw'r safonau o gymaint pwys, efallai, gan fod y diddordeb yno. Gobeithio y bydd cyfansoddiad newydd Cymdeithas yr Eisteddfod yn gymorth i ddiwygio'r safonau a llawer peth arall y mae angen ei wella yn nhrefniant yr ŵyl. Gwrthododd Ysgol Haf y Blaid Genedlaethol yn y Bala-os cywir adrodd- iadau'r papurau Saesneg-roddi ystyriaeth i bolisi Mudiad y Werin. Gwr- thododd hefyd, y mae'n debyg, wneud unrhyw ddatganiad pendant o blaid democratiaeth. A dweud y lleiaf, mae hyn yn od o debyg i ffasgiaeth, a bydd llawer yn gweld yn y digwyddiad hwn ymgnawdoli o'u hofnau gwaethaf. Byddai'n dro caredig â'r wlad, pe bai'r Blaid Genedlaethol yn dweud yn agored ac yn swyddogol beth yw lliw y crysau i fod, yn hytrach na cheisio gwisgo am ei haelodau ryw siaced fraith Joseph! Bu'n rhaid gohirio rhai ysgrifau go bwysig y tro hwn hyd y rhifyn nesaf.