Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cynhaeaf yr Eisteddfod. Rhaid i mi, o angenrheidrwydd, gyfyngu'r tipyn adolygiad hwn ar "Gyn- haeaf" Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth yr wythnos ddiwethaf,nid yn unig i gynhaeaf llenyddol yr ŵyl, eithr i'r gyfran honno o'r cynhaeaf llenyddol a geir yn y llyfryn a gyhoeddwyd o'r farddoniaeth fuddugol. Aeth y gadair a'r goron eleni i wyr ieuainc nad oeddynt wedi ennill y llaw- ryfon hyn o'r blaen, a'r gadair yn wir i ŵr nad oedd wedi dyfod i ddim amlyg- rwydd o gwbl fel bardd. Y mae gweled pobl newydd yn cipio prif wobrau barddoniaeth yr Eisteddfod yn peri bod y seremoniau cadeirio a choroni gymaint a hynny'n fwy diddorol. Bu raid atal y wobr yn y gystadleuaeth farddonol fwyaf niferus ei hym- geiswyr-sef cystadleuaeth yr englyn i "Ernes." Ni chafodd y beirniad, "J.W." Llundain, englyn teilwng allan o'r cant namyn un a gystadleuodd. Y mae bob amser deimlad cryf ymhlith ffyddloniaid Pabell Lên yr Eisteddfod yn erbyn atal gwobrau, ond ofnaf nad yw'r frawdoliaeth hoffus honno yn sylweddoli mor bwysig yw cadw'r safon yn rhesymol o uchel yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaeth "J.W." yn iawn drwy beidio â gwobrwyo lle ni welai fod teilyngdod. A barnu oddi wrth gyfrol y farddoniaeth fuddugol, gallasai rhai beirniaid eraill fod wedi dilyn esiampl dda "J.W." Ond, beth am yr awdl eleni? "Y Ffin" oedd y testun a bennwyd i'r awdl, ond ychydig a roddai "Y Ffin" yn bennawd i awdl fuddugol Mr. T. Rowland Hughes petai'r awdl yn ddi-bennawd. Seiliwyd yr awdl ar ddarn o Fabinogi "Branwen ferch Llyr," y darn hwnnw lle y mae Branwen--çhwaer Brân, brenin Prydain-wedi ei bwrw i gegin llys ei phriod, y brenin Matholwch, yn Iwerddon, wedi i'r Gwyddyl ddarganfod bod Matholwch wedi cael ei waradwyddo yng Nghymru ddwy flynedd yn gynt drwy i Efnisien, brawd Branwen, ddifetha ei feirch. Yn y gegin gyda Branwen yr oedd un ffrind bychan-aderyn drudwy. Drwy ymdrech feunyddiol dysgodd Branwen yr aderyn i ddwyn neges dros y môr o Iwerddon i Gymru, at ei brawd, Brân. Ysgrifennodd lythyr yn adrodd ei stori drist a rhwymodd ef wrth fôn esgyll yr aderyn. Dug y drudwy'r neges yn ddiogel i Gaer Saint yn Arfon at Brân, a chynullodd yntau ei wŷr ar unwaith a chroesi i Iwerddon i ddial cam Bran- wen. Rhaid gwybod cymaint a hynyna o'r Fabinogi cyn y gellir dilyn awdl Machynlleth yn briodol. Yn y caniad cyntaf ceir Branwen yn annerch yr aderyn cyn cychwyn ohono ar ei daith: Heria'r wendon aflonydd A'i huchel fost, os chwil fydd. 'Heda uwch ei lluwch a'i lli: Anhunedd sydd hedd iddi,