Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Athrylith Idwal Jones. Wrth feddwl am ddawn arbennig Idwal Jones yn ei "Gerddi Digri" a'r "Eos- iaid" a'r *"Cerddi Digri Newydd," bûm yn ceisio dyfalu beth oedd gennym i'n difyrru ein hunain cyn i Siani a Leisa a Jane Arabella a'r Un dyn bach ddod i'r cwmni. Fe'm maged i ar drips Ysgol Sul i lan y môr, a mynd mewn brêc i Gymanfa Ganu a Chymanfa Ysgolion a Chyngherddau ac Eistedd- fodau. Ni chofiaf ganu dim ar y teithiau hyn, fel y gwnawn yn awr mewn cwmni siarabang, a phe bai bloeddio canu yn weddus ar y cyfryw achlysuron, prin iawn a fyddai fy stoc i ar wahân i aneirif emynau a darnau poblogaidd y cystadleuaethau Eisteddfodol. Yn y cyngherddau, caneuon trist-grefyddol a gofiaf i yn bennaf-"Dagrau'r Iesu," "Gyda'r Iesu," "O'r Niwl i'r Nef," etc., ac am yr adroddiadau,— dwys, dychrynllyd, a chalon-rwygol oedd y rheini bron yn ddieithriad. Llong- ddrylliad ofnadwy, gwragedd a phlant ar fin boddi, gweddi ddagreuol ar eu rhan, y teimlad yn dyn fel tant telyn, yna'r achub sydyn rhagluniaethol a'r floedd orfoleddus o lawenydd-dyna'r teip, a'r adroddwyr yn chwysu fel pŷs wrth geisio darlunio'r cyfan yn erchyll o fyw i'r gynulleidfa; honno'n dal ei hanadl nes y deuai'r ymollyngdod gydag achub bywyd o safn y bedd ac angau, neu droi pechadur o gyfeiliorni ei ffyrdd. Weithiau caed pethau o nodwedd ysgafnach, caneuon fel "A welsoch chwi hen ffon fy Nain?" (cafodd Idwal weledigaeth newydd ar hon!) a rhyw hanner- canu, hanner-adrodd fel yn "adferteiso am Wraig." Tynnid yn helaeth wrth gwrs ar ddarnau poblogaidd Mynyddog am adroddiadau difyr Ni, Nhw, Ond, etc. Caed hwyl wrth adrodd am Gymro gwledig trwstan wedi ei rwydo gan "Y widw fach lân I was see in the train." Rhyfedd y difyrrwch a gaem ni, Gymry uniaith o'r wlad, wrth glywed rhyw garbwl cymysglyd fel yn y darn-"My name is Tommy Morgan and I come from pendraw'r byd." Y mae gan Idwal Jones un darn, ac un yn unig, sy'n tynnu ei hwyl o'r ffyn- honnell hon, a diddorol yw sylw mai'r ffordd y daw enwau fel Llanelli allan o wddw ambell Sais a'i gogleisiodd y tro hwnnw. Nid dyna'r math o beth i gosi awen Idwal. Pobol fach fel chi a fi yn ein gwendidau, a'n trwstaneiddiwch a'n pŵd a'n pwysigrwydd-dyna'r hyn a'i gyrrai i chwerthin. Pwy a welodd yn well ddirgelion bywyd stiwdent diniwed yn y Coleg, neu yn ei lodgin, ar drugaredd {gwyrthiau'r landledi gyda'i hash, a'i mince-meat a'i rissoles? Cawn gip i mewn i freuddwydion melys hen ferch a swildod prennaidd hen lane, gerbron merched neu fabis. Gwelwn ddyn, mawr ei bwysigrwydd, yn colli ei ben yn ogystal â'i styden; a'r beirniad mawr un-gair, grêt-w, grêt; a'r creadur na ad ei deimladau tyner iddo fod yn hapus gydag un enwad; a rhyfedd gymhellion dynion ar bwyllgorau *"Cerddi Digri Newydd." Gwasg Llandysul. 3/6.