Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Traddodiad yng Ngwaith Kate Roberts. Cytunir yn lled gyffredinol bellach fod "traddodiad" eithriadol ac arbennig i lenyddiaeth Gymraeg. Y mae egluro hanfod y traddodiad hwnnw yn waith cymharol hawdd, canys nôd ysgolion y beirdd am fil o flynyddoedd oedd gwneuthur eu safonau a'u dulliau yn ddigon amlwg a phendant. Nid myneg- iant personol o'r person unigol oedd creadigaeth y bardd, eithr crefft gyff- redinol ydoedd, a'r gelfyddyd yn dibynnu ar ffrwyth y cof a'r deall yn hytrach nag ar y dychymyg a'r teimlad. Yn nechrau ein llenyddiaeth, ffurf fu'r peth pwysicaf erioed, ac y mae rheolau manwl mesur a chynghanedd cerdd dafod yn ddigon i ddangos bod y dull o drin y testun yn bwysicach na'r testun ei hun. Y rheswm digonol dros hynny, wrth gwrs, yw mai'r un testunau oedd i bob bardd fel ei gilydd, a'r hawl i farnu unrhyw destun neilltuol yn deilwng o gân yn eiddo i'r ysgol yn unig. Ni ellir amau bod crefft y bardd yn gyfyng ac yn gaeth. Nid oedd ynddi Ie i fynegi na theimladau personol nac athroniaeth chwyldroadol, fel y ceir hwy yn llenyddiaeth Lloegr; buasai creu "Hamlet" yn amhosibl yn y Gymraeg, a hwyrach mai dyna'r rheswm am fethu o'r nofel a'r ddrama gael gafael llwyr a sicr eto ar lenorion Cymraeg. Dibynna'r ddwy ffurf yn bennaf ar fynegiant o fywyd, ac yr oedd y fath ysbrydoliaeth â hynny y tu allan i fyd crefftau swydd- ogol yng Nghymru. Perthyn y nofel Saesneg i draddodiad hollol wahanol i eiddo'r Gymraeg, ac y mae nofel fel "Creigiau Milgwyn" yn ddigon i ddangos mai methiant dygn ydyw ceisio gwthio safonau estron ar lenyddiaeth Gym- raeg. Gwendid pennaf y gwaith hwn yw ei lunio ar batrwm pethau tebyg yn Lloegr ac anwybyddu'n llwyr y ffaith mai nid dyna ddeunydd celfyddyd yn y wlad hon na'r dull o'i chreu. Canys y mae i'r bywyd Cymraeg eisoes ei athroniaeth ei hun. Athroniaeth gymdeithasol ydyw. Swydd beirdd Cymru oedd darlunio bywyd yn ei ber- ffeithrwydd, gan bwysleisio'r hyn a oedd yn dda ac yn wir, a gadael allan bopeth a oedd yn hyll ac yn ddiflas. Realiti oedd y testun bob tro; y "perffaith delfrydol" ydoedd a'r perffeithrwyda hwnnw ar gael yn barod ym mywyd beunyddiol y wlad. Y mae i'r portread hwn o fyw bwysigrwydd arbennig iawn yn hanes datblygiad y genedl; arwydd ydyw i'r Cymry ddysgu eisoes mai'r pethau cyffredin ac ystrydebol yw sail bywyd. Llencyndod piau'r breu- ddwydion a'r dyheadau sydd yn esgyn, yn rhy aml o lawer, y tu hwnt i gyrraedd hanfod byw ar y ddaear; dull o ddianc ydyw rhag y diflastod a'r anfodlon- rwydd sydd yn codi o enaid yr artist oherwydd ei brofiad personol ef ei hun. Yn sicr, fe roes yr ymdeimlad hwn fod i lenyddiaeth fawr a godidog; pery eto i'w chynhyrchu, ac oherwydd hynny, fe geidw ei le. Eithr arwydd o an- aeddfedrwydd un sydd yn dysgu sut i fyw ydyw'r awydd personol hwn i ffoi rhag y byd fel y mae, a cheisio llunio byd arall newydd a disglair a fydd yn cynnwys pethau bywyd fel y dylent fod yn hytrach nag fel y maent. Ond cyn