Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau. Buchedd GARMON, gan SAUNDERS LEWIS. Gwasg Aberystwyth, 1937. Fel darn o lenyddiaeth yn unig y gallaf sôn am y ddrama hon, sef yn union fel y gwelir hi â'r llygaid yn y llyfr a gyhoeddwyd eleni gan Wasg Aberystwyth. (Gresyn, gyda llaw, nad yw'r llyfr yn fwy hylaw, fel y gellid yn hawdd heb aberthu dim mwy na phapur gwyn). Y mae yna ddrama arall yn y rhagair-drama ynghylch cyfansoddi drama o dan amodau cwbl newydd yng Nghymru, ac y mae i'r ddrama honno hefyd ei harwyr a'i chythreuliaid; ond nid y ddrama honno y gofynnwyd i mi ei hadolygu-hwyrach mai am na welwyd ei diwedd eto. Wrth ddarllen y rhagair, hawdd gweld bod meddwl pendant creadigol a diflino ar waith; meddwl sy'n gweld ei gyfeiriad. Llunio ar gyfer ein hoes ni heddiw y mae, a hynny am ddoe sydd eto'n heddiw. Felly fe groesewir aml anachroniaeth am fod synnwyr o unoliaeth bywyd Cred trwy'r oesoedd yn elfen hanfodol o angerdd y ddrama. Er nad oedd yr enwau Cymru, Llydaw, Arfon, Powys, etc., yn arferedig yn 429 A.D., fe gyfleir bod eu sylweddau, a'u tynged yn dibynnu ar a wnaed pryd hynny. Er pob anachroniaeth nid cellwair yr ydys ag hanes, ond y mae'n cyfrif yn fawr. Nid gwirionedd ffeithiau yn gymaint, ond gwirionedd proses, a hwnnw'n brigo i'r wyneb mewn digwyddiadau pendant, boed y rheiny ffrwyth dychymyg neu beidio. Pwy a ŵyr a syllodd Illtud ar y bar mawr yn Auxerre yn symud o'i fodrwy, ond y mae'r symud bar yna'n symbol gwych. Nid oes amau na chafodd Eglwys Crist yng "Nghymru" ei nerth a'i hunan hyder mewn aml gyfyngder o wybod nad rhyw sefydliad bach di-sôn-amdano mewn stribyn o wlad anial fynyddig mohoni, rhwng y paganiaid a'r dwfn, ond ei bod yn cael ei harddel fel rhan o rywbeth mawr a buddugoliaethus iawn, sef ei bod yn gangen ffrwythlon o'r Wir Winwydden. Yr un modd yr oedd cof am y porffor Rhufeinig yn gosod bri ar aml i ddisgynnydd, digon bach yng ngolwg estron, o deulu Cunedda, a lynai fel gelen wrth ei ychydig filltiroedd o weunydd a chorsydd. A rhywfodd anneall i lawer ohonom ni heddiw, yr oedd y ddau ogoniant yn un! "Fe ddaw Rhydderch Hael, rwyfadur Ffydd!" Hawdd iawn fyddai pentyrru profion i genedlaethau lawer o Gymry feddu'r weledig- aeth hon, ac o'r nerth a ddaeth iddynt o'i chanfod, a dyna yw'r ornest yn nrama Buchedd Garmon, sef rhwng cynheiliaid Garmon ac Emrys ar y naill law a'r chwalwyr, sef y Saeson a'r hereticiaid ar y llaw arall. Gair bach eto am y rhagair. Hyd at gyfnod y Morysiaid, peth i'w ganu oedd barddoniaeth y gynghanedd, a defnydd cân hyd yn ddiweddarach fyth oedd y rhan fwyaf o lawer iawn o'r hyn a luniwyd ar y mesurau rhyddion. Yn awr, y mae rhithm geiriau llafar yn dra gwahanol i rithmau cân. Rhaid iddo osgoi pob undonedd canllyd, ac i'm tyb i, y gymwynas fawr a wna vers libre i'r Gymraeg fydd gorfodi'n beirdd, a hyd yn oed ysgrifenwyr rhyddiaith,