Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OWEN MORGAN EDWARDS. Cofiant. Cyfrol I, 1858-1883. W. J. GRUFFYDD. Aberystwyth, Ab Owen, 1937. 5/ Ychydig amser yn ôl, yr oeddwn yn myned gyda'r hwyr dros Fwlch y Groes a than gysgod yr Aran, i lawr, heibio adfail Coed y Pry, i Lanuwchllyn. Ac wrth drafaelio'r ffordd hon, euthum i fyfyrio ar y cofiant hwn, ac yn sydyn,-ni allaf esbonio'n hollol pam-gwelais fawredd y bennod gyntaf a'r gwirionedd mawr a bwysleisir ynddi gan yr Athro Gruffydd, mai yn y weled- igaeth a gafodd ar fro Llanuwchllyn y gwelir cyfrinach bywyd a gwaith Syr O. M. Edwards. Wedi meddwl, nid yw hyn yn beth syn, chwaith, oblegid mewn gweledigaeth o'r fath y ceir dehongliad ar waith llawer o'n llenorion. "O bopeth a welodd, ymddangosai Llanuwchllyn yn bwysicaf iddo," dywed yr Athro; gellid yr un mor hawdd sgrifennu'r frawddeg hon am eraill, a newid enw'r fro, — Trawsfynydd i Hedd Wyn, Rhyd Ddu i'r Athro T. H. Parry Williams, Llanddeiniolen i'r Athro Gruffydd ei hun. Yn y fan hon y gorwedd nid dirgelwch bywyd O. M. Edwards yn unig, a'n gwŷr mawr, lawer ohonynt, eithr hanfod, ond odid, yr holl fywyd Cymreig, a'n llenydd- iaeth. I'm cenhedlaeth i, mi gredaf, yr oedd O. M. Edwards wedi tyfu'n fath o fyth. Ni chefais i erioed mo'r fraint o'i weled, gwaetha'r modd, ond ni bu neb y clywais fwy o sôn amdano, pan oeddwn yn hogyn, nag ef, hyd nes y daeth, yn enwedig ar ôl imi ddarllen ei waith, yn fath o Hywel Harris llenyddol, y bu Cymru o'i flaen "yn gorwedd mewn rhyw dywyll farwol hun." Hyd yn oed wedi imi ddod i wybod ychydig mwy am rediad ein llenyddiaeth ac am hanes y ganrif ddiwethaf, ymddangosai O. M. Edwards fel chwyldroadwr, yn ddolen rhwng cyfnod a fu ac oes newydd. Efô oedd lladmerydd a chrewr yr oes newydd-a chredaf yn sicr fod hynny, o safbwynt y werin bobl, yn berffaith wir, canys ni bu gwerin Cymru erioed yr un fath ar ôl i O. M. Edwards ddech- rau ar ei waith. Dyna a wna cyfrol gyntaf odidog y cofiant hwn-o roddi'r cefndir y magwyd ef ynddo a hanes y pum mlynedd ar hugain cyntaf o'i fywyd, esbonio sut y daeth y gŵr hwn i drawsnewid y wlad ac arwain y werin bobl i'w mynegi eu hunain am y tro cyntaf. O'i flaen, yr oedd safonau barddonllyd gwŷr y mesur- au caeth a'r Eisteddfod yn anystwyth a thruenus, a phrin y gwnaeth y telyneg- wyr poblogaidd fwy na rhigymu, ac apelio at chwaeth isaf y meddwl bour- geois newydd. O. M. Edwards oedd y cyntaf i geisio gosod safon i werth- fawrogiad y werin o gynnwys ac arddull llenyddiaeth, y cyntaf i sgrifennu mewn iaith seml a chadarn y gallai pawb ei deall a'i hedmygu. Ac er bod llawer o wendidau'r oes arno, a'i chwaeth bersonol mewn celfyddyd yn aml yn ddiffygiol, eto fe lwyddodd i ehangu maes meddwl a diddordeb y Cymro mewn modd rhyfedd iawn, mewn modd, ysywaeth, na allwn obeithio bellach weled ei debyg. Gwnaeth hynny am ei fod yn addysgwr trwy reddf. Y mae llawer o'i Hanes heddiw, wrth reswm, yn amheus, ond nid yn y fan honno y gwelir cyfraniad