Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae hi'n Uche1 Wyl yng Nghaer-yr-Hanner-Byw. Yno, ar wys y trwmp a'r lluman, fe gyfyd llafar fawl y saint-yn gymysg â seiniau dawns a chlêr a thincial gwydrau a thramp sodlau dur—yn un anthem orfoleddus: CODASOM Gaer i'n hil mae dawn a dyfais cenedlaethau glew yn waddol ym magwyrydd hon; o'i hir gaboli gan gelfyddyd dyn fe ddaeth yn ddinas deg i'r Iôr. Fe gurodd llawer trin ar ei thwredau-er dyddiau'r brwnt Fastil,- ond trech yw hi na'u mellt, a chryfach na'u gwyntoedd gwyllt. Canys oni thywalltwyd i'w muriau gymrwd o chwys a gwaed? Ac oni nyddwyd cnawd a haearn yn glôg amdani hi? Y Deng-Air-Deddf yw sail ei Chyfraith gref- hyhi a ddehongla'r Llys, hyhi a fendithia'r Llan. A hardd yw'r Gaer yn heulwen Mai, a'i phinaglau fel bidogau dur dan enfys drilliw'r Ŵyl. HEN A THRAGYWYDD YW'R GAER, ARNI NI FACHLUD YR HAUL; UN A CHYTUN YW EIN HIL, A DUW A GADWO EIN TEYRN! A mi a ddychmygais glywed Rhod Amser yn chwyrnellu, a Llais yn ateb: Mae rhinwedd nas prynir ag aur, a grym nad etyl grym, (hyn ni chydnebydd eu diamgyffred synhwyrau hwy). "Codasom Gaer." DYDD Y CORONI, 1937 o ddewis feini'r ddaear fras a'i phraffaf brennau hi: