Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Torheuled preswylwyr y gaer yn fflamau ei machlud hi; wele, mae cysgod ei diwedd eisoes ar ei phyrth; canys obry, lle y taena'r copyn cêl ei rwydi gwawn yn hanner-gwyll ei chwteri fe lecha'r cynrhon sy'n cnoi a chnoi ei seiliau yn ddygn ddiflino: ac yno mesura cyson gawodydd o'i llwch ei diflanedig oriau— fely dirwyn pistyll main y tywod y munudau i ben mewn gwydr. Yn ebrwydd fe ddaw di-edifar ddydd ei chwymp, ac ni bydd i hwnnw'r gogoniant sydd i dranc yr hafyn y wig. Daw arogl gwywdra gyda'r awelon pan dery'r cynrhon anthem eu buddugoliaeth lân, oblegid nid arbedir offiwdal dyrau'r gaer namyn tomen rhyngom a'r gorwel. GWILYM R. JONiS. Dwy Gan o'r Aifft. YR ALLTUD. (Efelychiad o gân gwerin Eifftaidd) Sawl noson, sawl dydd, Y tariaf heb gwmni fy nghymar, Heb brofi o wynfyd ei grudd? Sawl noson, sawl dydd, Heb danllwyth na phentan nac aelwyd, Heb blantos na chwerthin rhydd? Sawl noson, sawl dydd, Mewn hiraeth am un a fu'n gyfaill, Hen gyfaill y llwybrau cudd? Sawl noson, sawl dydd, O fynwes y fro sydd yn annwyl, Yn alltud ar grwydr prudd? J. GWYN GRIFFITHS.