Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Efelychiad o gân gwerin yn Arabeg yr Aifft. Trwy law Mohamed Hasan Siereiff,o Gwfft, ger Lwcsor) AR LAN YR AFON. Ar lan yr afon wrth y rhyd Y cwrddais i â'r hardd ei phryd, Pan grwydrwn ddoe yn drist fy myd. Fe ddeuai hi i mofyn dŵr, A minnau yno'n eiddgar ŵr, Ar lan yr afon wrth y rhyd. Myn Duw! fel y chwenychais hi, Ei bronnau llawn a'i gwallt yn ffri! Ar lan yr afon wrth y rhyd. Gollyngai'r piser oddi ar ei phen, A'i llygaid oedd fel sêr y nen, Ar lan yr afon wrth y rhyd. Wylais o hiraeth am ei chael, A'i thynnu ataf yn gariad hael Ar lan yr afon wrth y rhyd. Cyferchais hi â geiriau swyn, A daeth i'm breichiau'n forwyn fwyn Ar lan yr afon wrth y rhyd. Ond cymerth f'arian, ac aeth i ffwrdd, Gwae fi, imi erioed ei chwrdd Ar lan yr afon wrth y rhyd. Un ddieithr oedd i'm pobl i, Ond dug fy nghalon gyda hi O lan yr afon wrth y rhyd. J. GWYN GRIFFITHS.