Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

At y Golygydd. Fel aelod cyffredin o'r Blaid Genedlaethol credaf mai ar gam y cyhuddwch y blaid honno o dueddiadau Ffasgaidd. Byr iawn yw eich nodiad ar y mater, ac ni thrafferthwch i egluro sail y cyhuddiad. A gwnaethoch gyfeiriadau yr un mor amwys wrth sôn cyn hyn am Fudiad y Werin. Ni fyddai'n iawn imi amau eich diffuantrwydd, ond y mae lle i ofni bod yr athrylith Gymreig i greu rhaniadau yn un o'r aml ddoniau a feddwch. Peth iachus yw beirniadaeth, a gwn fod i'r Blaid lawer o wendidau. Yr ydych chwithau yn Genedlaetholwr yn y pethau sylfaenol, a dyna pam y credaf nad yw eich geiriau diwethaf yn deilwng ohonoch. Nid beirniadaeth deg a roddwch, ond gwawdiaith fflipant. Ymunwch gyda'r Western Mail i gyhuddo'r Blaid o Ffasgiaeth. Gofynnwch yn ysgafn, "Beth yw lliw y crysau i fod?" Fy nghŵyn i yw y dylech wybod, o'ch adnabyddiaeth o arweinwyr a delfrydau'r Blaid, fod ysbryd y crysau yn hollol ddieithr iddi. Y mae Ffasgiaeth, fel y gŵyr pawb, yn sefyll dros gyfundrefn gorfforaethol, a thros syniad arbennig am y wladwriaeth. Geill olygu unbennaeth, neu o leiaf ganoli'r galluoedd hanfodol mewn cylch bychan. Hunan-ddigonolrwydd yw ei delfryd, ac effeithia hyn ar ei hagwedd gyd-wladol. Ceir weithiau barodrwydd i gydweithredu, ond awydd i fod yn annibynnol. Ceir hefyd imperialaeth agored, amrwd. Y mae cyfundrefn a pholisi'r Blaid Genedl- aethol yn gwbl wrthwynebus i'r syniadau hyn i gyd, ac yn drwyadl ddemo- crataidd ym mhob dim. Fe wyddoch hynny'n eithaf da. Dengys "Llawlyfr y Blaid" fod hyn yn wir am ei chyfundrefn ac am eu dulliau o weithio. Etholir ei swyddogion gan gynhadledd sy'n cynrychioli'r holl ganghennau. Pender- fynir polisi'r Blaid gan y gynhadledd hon, a chan y Pwyllgor Gwaith a etholir ganddi. Etholir hefyd olygyddion a byrddau golygyddol ei phapurau. Ymhellach, y mae polisi economaidd y Blaid ar gyfer Cymru'r dyfodol yn ddemocrataidd i'r gwraidd. Tra y mae Sosialaeth am genedlaetholi'r diwyd- iannau a thrwy hynny drosglwyddo'r gallu economaidd nid i'r werin ond i'r llywodraeth, y mae'r Blaid yn dysgu cydweithrediad, modd y bo i'r werin ran fwy uniongyrchol yn nhrefniad ei byd. Ar yr un llinellau y mae ei dysg am eiddo preifat. Yn gyfansoddiadol, ni chwenycha ond rhyddid o fewn y Gymdeithas Brydeinig. Goddefwch imi awgrymu eich bod chwi a Mudiad y Werin, wrth chwennych "annibyniaeth i Gymru ar linellau Sosialaidd," yn agosach o dipyn i'r syniadaeth Ffasgaidd nag yw'r Blaid. Cofiwch mai Sosialaeth Genedlaethol a orfu yn yr Almaen, ac mai annibyniaeth herfeiddiol yw ei nod angen hi. Dywedodd y Blaid erioed nad annibyniaeth baganaidd oedd ei nod, ond rhyddid rhesymol i Gymru fyw ei bywyd ei hun. Dywed- odd Mr. Saunders Lewis hynny yn Ysgol Haf Machynlleth yn 1926, a dy- wedodd yr un peth ddeng mlynedd ar ôl hynny, cyn cerdded i mewn i garchar Seisnig.