Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Drwg gennyf os bu fy nghwestiwn am liw'r crysau yn peri loes. Mewn ysbryd ymofyngar y gofynnwyd y cwestiwn, a'i ystyr oedd y buaswn yn hoffi clywed yn fwy pendant beth yw polisi economaidd y Blaid. Term go amwys yw cydweithrediad, ac nid Iwerddon na Denmarc mo Gymru ddiwyd- iannol. Ofnaf nad yw'r Blaid yn sylweddoli'n llawn fod ymreolaeth i Gymru yn golygu ymreolaeth i wyr busnes Caerdydd ac Abertawe a gweithwyr dieiddo ardaloedd gweithfaol Morgannwg, ac nid i wladwyr a gwyr academig yn unig. Y GOLYGYDD. Nodiadau ar Surrealistiaeth. Mae'n amhosibl bron anwybyddu Surrealistiaeth heddiw, pa farn bynnag sydd gennym am ei hathroniaeth a'i ffrwythau. Ar un agwedd y mae Surreal- istiaeth yn debyg i sawl mudiad a ledodd o Ffrainc i dyfu'n ddylanwad pwysig ar gelfyddyd ac ar lenyddiaeth Iwrop a'r Amerig, megis Symbolism, Impress- ionism, Cubism ac yn y blaen, gan fod rhyw elfennau dadleuol yn perthyn iddi sy'n gwneud ei henw, onid ei gwir natur, yn adnabyddus hyd yn oed i ddarllenwyr y papurau newyddion. Ac y mae ei newydd-deb a'i dieithrwch yn gallu creu y fath ddiddordeb fel yr ymwelodd miloedd â'r Arddangosfa Surrealistig a gynhaliwyd yn Llundain y llynedd mewn ychydig amser. Yn wir, y mae golygydd cylchgrawn newydd arbennig1 yn Lloegr wedi tynnu yn ôl erthygl a addawodd ar Surrealistiaeth yn ddiweddar gan fod y mudiad, yn ei farn ef, wedi derbyn gormod o sylw a chyhoeddusrwydd yn barod! Wel, beth ynteu ydyw sylfaen athronyddol y mudiad ffasiynol hwn; beth ydyw'r syniadau sy'n gyrru'r sôn amdano dros ffiniau Ffrainc a thros Iwerydd? Yn anffodus, nid hawdd cael diffiniad eglur a chynhwysfawr o Surrealistiaeth. Defnyddia ei hamddiffynwyr yn aml ryw faldod barbaraidd yn eu disgrifiadau sydd bron yn annealladwy, neu, mewn dull hollol nacaol, y maent yn pwys- leisio yn hytrach y pethau nad yw Surrealistiaeth. "Surrealism," meddai Mr. David Gascoyne, "is not a style, it is not a school of literature or painting, it is not a system of aesthetics. A dyma ddarn o ragair M. Georges Hugret i'w "Petite Anthologie Poetique du Surrealisme." "Je ne croire pas nécessaire d'insister sur Ie fait que Ie surréalisme n'est pas une école littéraire, comme l'ont été Ie romantisme et Ie symbolisme, qu'il ne s'attache pas a créer un poncif qui fait époque, mais que, perpetuellement en mouvement, confrontant sans cesse tous les moyens qui se présentent de parvenir â la transformation du monde et de la penséê, il est laboratoire d'études, d'expérimentations, qui écart toute villéité d'individualisme." '"Twentieth Century Verse." Gol. Julian Symons. ‘‘A Short Survey of Surrealism." David Gascoyne.