Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mrs. Millar. Ni bu neb tebycach i Nansi'r Nant erioed na Mrs. Millar. Yr oedd hithau yn grom ei hysgwydd, yn felyn a lledrin ei chroen, yn esgyrniog a main ei llaw a grafangai'n dyn ar y ffon. Ofnais hi lawer gwaith, a phan fyddwn yn euog o felltith bygythiwyd dicter Millar ar adegau, neu'n amlach, Daniel Cwm Llwydrew. Yr oedd Daniel â'i breswyl rywle yn y tir coediog ar y ffordd i'r Bryn, a Millar yn byw yn agos. Trigai hithau gerllaw fy nhadcu mewn ty a'i furiau o glai a cherrig a thô hanner sinc, hanner-gwellt, a ffenestr fechan o bob tu i'r drws isel, ond yr oedd cyn sicred o aros â'r darn tir y tyfodd yn rhan ohono erbyn hynny, yn hollol fel y gwyddai'r hen wraig am draddodiadau a straeon bwganod y llecyn. Tyfai'r cwlwm coed dros y drws, ac o flaen y ty blodeuai'r "droppers" coch a phorffor, un o hoff destunau canmol Millar. Ac yna'r wal isel a llechen laslwyd ar ei phen, lle dringem pan ddeuai "cart popeth" Channing heibio ar ei daith drwy frodir Cenarth a Chastell Newydd Ernlyn, ac fe fyddwn yn estyn y figwrn a'r mwnwgl er mwyn syllu i ogof rhy- feddodau'r cart. Mi gredaf mai dyma'r unig dro y teimlwn yn hapus yn ymyl ty Millar. Pan awn yn ofnus drwy ddrws y ty profwn arogl hen tebyg i aroglau'r dail yn yr hydref wedi iddynt wlychu a chael eu sathru dan draed. Yr oedd y mur- iau o'r tu mewn yn dangos yr holl newyddion am flynyddoedd maith a dar- llenwn yno yn ami am driciau dwl dynion. Crogwyd crochan mawr wrth gadwyn a ddeuai o ddirgel-leoedd du y simne. Eisteddwn ar gornel y sgiw ac arhosai Millar yn un swp yn y gadair freichiau ar law dde'r tân. 'Rwy'n lled dybio na chodai fyth o'r fan honno ac nad oedd pwrpas i'r ystafell ar y dde i'r drws. Yno'r arhosai Millar a syllwn dros ei phen i'r fynwent a'r eglwys dros y llwybr cul glaswelltog a'r cerrig gleision yn sgleinio yn yr heulwen wedi'r glaw, a'r tarth yn codi'n betrusgar oddi arnynt. Rhyfeddwn wrth fy nhadcu nad oedd yn ei hofni, ond ymddangosai ef fel pe na bai'n gwybod am fodolaeth Millar pan eisteddai ar y garreg fawr gron yn ymyl ei dy yn ei drowsus a'i wasgod melfared a'r crys gwlanen, a thynnu'r baco yn hamddenol o'r bocs pres lle cadwai'r fferins duon a losgai ein tafod bob tro y ceisiem eu bwyta. Ond yr oeddynt ill dau yn hen, yn dawel sicr am ddaioni a drygioni. Ni chofiaf mo'i llais, ac ni chyffyrddais â hi, ni roddais law i'w chynorthwyo a'r cof olaf sydd gennyf amdani yw ei gweled yn cerdded, neu'n hytrach, ar ei thraed yn hercian. Aeth â ni am dro o gylch y fynwent ychydig wedi marw fy nhadcu ac wrth fynd yn ymyl yr eglwys pwysai ar yr hen furiau. Byddai'n gwisgo ei chlog a'i bonet â'r gleiniau duon pan aethai yno gynt, ond yn awr yr oedd ar ei therfyn a galwai'n fain ar ei hunig gydymaith mwyach, hen gath wen nad elai at neb ond at Millar. Criai ar hwnnw fel pe'n galw ar ddyn: "Tom, Tom," a churai ei ffon ar ro llwybr cul y fynwent. D. LLEWELYN WALTERS.