Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dolur Sbaen. Y cwestiwn a ofynnir imi amlaf wedi imi ddychwelyd o Sbaen yw, Pa bryd y daw terfyn ar y rhyfel? Mae dau ateb i'r cwestiwn. Fe ddaw'r rhyfel i ben pan wneir y Cytundeb Atal Ymyrraeth yn hollol effeithiol, neu pan wneir i ffwrdd yn gyfangwbl â'r Cytundeb. Dan yr amgylchiadau pre- sennol fe â'r helynt ymlaen am amser maith iawn, ac fel y mae'r wythnosau'n myned heibio mae'r dioddef yn cynyddu. Tra y mae pwyllgorau yn eistedd yn Llundain a mannau eraill mae miloedd o bobl yn araf newynu, ac fel y mae'r gwledydd yn ymddwyn heddiw nid yw'r Cytundeb ond yn gohirio buddugol- iaeth Llywodraeth Sbaen ar y gwrthryfelwyr. Unochrog iawn a fu gweithrediad y Cytundeb o'r dechrau. Tra y mae'r byd yn gwybod na fu atal ar ddynion a magnelau o'r Eidal a'r Almaen i gynorth- wyo Franco, gwelais ar ochrau'r Pyrenëau amrywiaeth o bethau wedi eu hanfon gan wledydd eraill i helpu'r werin ond wedi methu cael i mewn i'r wlad. Gwir i Rwsia anfon arfau cyn arwyddo i beidio anfon ychwaneg, ond wedi hynny cadwodd at ei gair. Nid yn unig y mae yn amhosibl anfon arfau rhyfel i'r wlad ond y mae bron yn amhosibl cael bwyd i mewn. Daw ambell long fwyd i Valencia a gwn am y llawenydd ymysg y bobl am ddiwrnod neu ddau wrth weled wyau ac ymenyn yn y farchnad. Ond buan y daw diwedd ar un llwyth llong a rhaid fydd mynd yn llwglyd yn y gobaith y daw llong eto cyn bo hir. I lwyddo y mae'n angenrheidiol i wrthryfel fel hyn gyrraedd ei hamcan o fewn ychydig ddyddiau, ac oherwydd i'r Llywodraeth sefyll cyhyd, y mae yn sicr o'r fuddugoliaeth yn y pen draw. Ar y dechrau yr oedd pob mantais gan y gwrthryfelwyr. Yr oedd y fyddin, a llynges, a'r holl gelfi angenrheidiol i ryfela ganddynt ynghyda'r wybodaeth i'w defnyddio, nid oedd gan y werin ond rhyw dri chadfridog o'i rhan ac nid oedd gan y rhai hynny na milwyr na magnelau i'w defnyddio. Eto yn y dyddiau blin hynny methodd Franco dorri drwy rengoedd y bobl i ymafael yn awennau'r wlad. Methodd y pryd hynny, a methodd hyd yma oherwydd mai milwyr cyflogedig sydd ganddo a bod byddin wirfoddol a honno yn ymladd am ryddid yn ei wynebu. Erbyn hyn y mae byddin y bobl wedi ei disgyblu ac y mae ffatrioedd Sbaen yn troi allan ryw gymaint o arfau, ond y mae miloedd o ddynion yn barod i ymladd pe bae ganddynt arfau i fynd allan i'r frwydr. Ped arfogid holl gefnogwyr y Llywod- raeth fel y mae milwyr Franco yn cael eu harfau o wledydd tramor, fe fuasai'r cyfan heibio ymhen ychydig amser. Nid oedd y syniad o atal cefnogaeth i'r ddwy ochr yn un drwg ar y cychwyn, er nad oedd gan unryw wlad hawl foesol i atal cynorthwy i Lywodraeth gyfeillgar oedd mewn perygl. Ond pan welwyd nad oedd pob gwlad yn cadw at ei gair, yna dyletswydd y gwledydd Democrataidd ydoedd achub cam