Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f Mae gan yr hen bendefigaeth gymaint i'w ail ennill pe deuai buddugoliaeth i Franco, a'r.werin gymaint i'w golli, fel mai ofer sôn am ddiwedd ar yr helynt nes y bo un ochr wedi llwyr ddileu y llall. Amhosibl ydyw uno'r ddwy blaid na rhannu'r wlad rhyngddynt. Rhaid i'r fuddugoliaeth fod yn llwyr ac nid oes amheuaeth i ba ochr y daw oherwydd gŵyr y sawl fu fyw gyda thrigolion Madrid yn y dyddiau blin hyn fod eu hysbryd yn ddi-ildio. Marìan Glas. J. WILLIAMS HUGHES. Y Gerddoriaeth Newydd. II Yn fy ysgrif flaenorol crybwyllais enwau tri chyfansoddwr-enwau a saif heddiw am Foderniaeth mewn Miwsig-sef Schönberg, Stravinsky a Hinde- mith. Ymdriniwyd â Schönberg fel apostol yr hyn a elwir yn Atonality. Ceisiaf ddangos yn yr ysgrif hon le Stravinsky a Hindemith yng nghynllun y Gerddoriaeth Fodern. Ganwyd Stravinsky yn Rwsia yn 1882. Bu yn ddisgybl i Rimsky-Korsakov,, a gwelir olion amlwg o ddylanwad ei athro ar ei gynhyrchion cynharaf. Ei waith pwysig cyntaf ydoedd "Aderyn y Tân," sef ballet a sgrifennodd i Gwmni Rwsiaidd Diaghilev; dilynwyd hwn bron ar unwaith gan "Petrouchka" a "Defod y Gwanwyn." Ychydig o fiwsig y ballets hyn sy'n ymddangos yn fodern heddiw. Mewn gwirionedd, fe ystyrrir "Defod y Gwanwyn" (a dderbyniwyd yn bur oeraidd ar y pryd, yn 1913) yn ddim namyn datblygiad o ddulliau ei ragflaenwyr, Rimsky-Korsakov a Borodin. Hyd at yr adeg hon, felly, gwelwn fod gyrfa Stravinsky, fel eiddo Schön- berg, yn yrfa'r Rhamantydd. Byddai'n anodd disgrifio'r hyn a ddigwyddodd ar ôl y cyfnod rhamantaidd hwn oherwydd ni ddilynodd Stravinsky unrhyw linell arbennig o ddatblygiad; yn hytrach, y mae i bob un o'i gyfansoddiadau o'r adeg yma ymlaen ei arwedd arbennig ei hun. Y mae ei "Symphonie de Psaumes" (1930) a'i "Concerto i Ddau Biano" (1935) yn bur ddyrys. Deil rhai fod Schönberg wedi cael cryn lawer o ddylanwad ar feddwI Stravinsky. Ni fydd y gymhariaeth ganlynol o gerddoriaeth y ddau gyfan- soddwr o'i le. Cawn fod rhai arweddau o Atonality yng ngweithiau Stravinsky; ond tra mae gwaith Schönberg (beth bynnag a feddyliwn ohono fel cerddor- iaeth) 0 leiaf yn berffaith gyson â deddfau rhifyddeg, y mae Stravinsky yn ei ddifyrru ei hun trwy orfodi dau a dau i wneud pump! Deuwn yn awr at Hindemith, a anwyd yn yr Almaen yn 1895. Yn wahanol i Schönberg a Stravinsky, 'roedd Hindemith yn fodernydd bron yn nechrau ei yrfa. Nid rhyfedd felly fod y cwbl o'i gynhyrchion lluosog, bron na ddywedwn yn boenus o amhersain. I ryw raddau, y maent yn atonal er na ddi- bynna'r cyfansoddwr yn hollol am ei ysbrydoliaeth ar y sistem a luniwyd gan