Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i'w cymharu yng ngoleuni'r un cyfnod yn Lloegr ac â'r ymdrechion presennol yng Nghymru. Ofnaf nad oes, ond odid, unrhyw elfen genedlaethol yng ngherddoriaeth y cyfnod o dan sylw. Beth bynnag arall y gellir ei ddweud amdano, nid yw yn nodweddiadol Gymreig. Nid rhyfedd i Dr. J. Lloyd Williams ddweud yn ddiweddar fod "cerddorion proffes (yng Nghymru) 'yn methu gweld unrhyw werth yn alawon gwerin Cymru, ac o ganlyniad, yn eu dirmygu." Afraid dweud fod yr alaw werin yn chwarae rhan bur bwysig yn ffurfiad miwsig cenedl- aethol. At hyn, nodaf ein barddoniaeth gaeth sydd mor nodweddiadol Gymreig; ac o fyfyrio'r naill a'r llall, dichon y deuir at y peth hwnnw a rydd arbenigrwydd i'n cerddoriaeth fel celfyddyd gynhenid Gymreig. Erbyn hyn, fodd bynnag, cafwyd cychwyniad i fudiad a ddaw, fe ddichon, yn wir genedlaethol cyn hir. Hyd y gwelaf i, y cyntaf i ganfod y posibilrwydd hwn oedd D. Vaughan Thomas. Gwnaeth astudiaeth lwyr o natur a hanfod yr alaw werin ac o'r hen Gywyddau. Mewn gwirionedd, gellid cymharu ei waith â'r hyn wnaeth Vaughan Williams yn Lloegr tua phum mlynedd ar hugain yn ôl. Llwyddodd, yn fy marn i beth bynnag, i anadlu ysbryd ac ym- deimlad gwir, Gymreig i'w osodiadau o'r hen gywyddau, yn arbennig yn ei "'Stafell Gynddylan." Gwnaeth David de Lloyd, yntau, ymgais glodwiw yn ei osodiadau o Englynion (hen a diweddar); edmygaf hefyd gyfraniad E. T. Davies yn ei Driawdau Offerynnol sydd, yn fynych iawn, â rhyw arlliw o genedligrwydd ynddynt; ond i Vaughan Thomas y perthyn y clod am ddi- huno yr ymwybod cenedlaethol. Nid gormod yw dweud amdano ei fod yn weledydd ym myd miwsig Cymru, Bellach, hyderaf y bydd i gyfansoddwyr cyfoes Cymru ddilyn ei ôl drwy wneud yr alaw werin a'r farddoniaeth gaeth yn faes efrydiaeth; ac os gwneir hyn credaf yn ddiysgog y bydd gennym cyn hir ysgol o gerddoriaeth wir Cymreig a chenedlaethol. ARWEL HUGHES. LLYFRAU A DDERBYNIWYD. "Deddf Uno I536.’’ Swyddfa'r Blaid Genedlaethol, Caernarfon. "Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru." Amgueddfa Genedlaethol Cymru.