Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Detholion o Lythyrau Rainer Maria Rilke1 Cyfieithwyd gan B. J. MORSE II. Heddiw yr wyf am ddweud dau beth arall wrthych. Eironi :­}na edwch iddi eich llywodraethu, yn enwedig yn ystod yr amser nad ydych yn ysgrifennu. Pan fyddwch yn creu, ceisiwch ei defnyddio hi fel un modd ychwanegol i gael gafael ar fywyd. Os defnyddiwch hi yn bur, bydd hi yn bur, ac ni bydd eisiau i chwi gywilyddio o'i phlegid; ac os byddwch yn teimlo eich bod yn mynd yn rhy gyfeillgar â hi, os byddwch yn ofni canlyniadau eich cyfeillgarwch cynyddol â hi, yna trowch at wrthrychau gogoneddus a difrifol a bair iddi droi yn sorod diymadferth. Ceisiwch ddyfnderoedd pethau, canys i'r fan honno ni ddilyn eironi; ac wrth agosáu felly at ffiniau pethau mawrion, fe welwch a ydyw'r eironi yn rhan anhepgorol o'ch natur. Canys o dan ddylanwad pethau difrifol bydd hi naill ai yn eich gadael (os rhywbeth damweiniol yw), neu yn datblygu (os ydyw'n rhan gynhenid ohonoch) yn offeryn sylweddol a fydd yn cymryd ei Ie ymhlith yr offer y bydd raid i chwi wrthynt i berffeithio eich celfyddyd. A'r ail beth yr wyf am ei ddywedyd wrthych heddiw yw hyn:-o'm holl lyfrau nid oes nemor un ohonynt yn anhepgorol angenrheidiol imi, ond y mae dau ohonynt ymhlith fy meddiannau bob amser, pa Ie bynnag y byddwyf. Y maent gyda mi yma hefyd: y Beibl, a llyfrau'r bardd mawr hwnnw o Dden- marc, JENS PETER JACOBSEN Darllenwch hwynt Agorant fyd newydd o'ch amgylch-llawenydd a digonedd ac ehangder annirnad y byd. Byddwch fyw dros ychydig yn y llyfrau hyn, dysgwch oddi wrthynt y pethau sydd yn werthfawr i chwi i'w dysgu-a hyn uwchlaw popeth-cerwch hwynt. Fe ad-delir y cariad hwn i chwi fil filoedd o weithiau, a pha dro bynnag a gymer eich bywyd, yr wyf yn sicr yr ânt drwy we eich deunydd fel un o'r edafedd pwysicaf yn holl gymhlethdod eich profiad, eich siomedigaethau, a'ch gor- foledd. Os dywedaf wrthych oddi wrth bwy y dysgais rywfaint am natur gwaith creadigol, ei ddyfnder a'i anfeidroldeb, ni allaf ddyfynnu namyn dau enw:- Jacobsen, y bardd godidog, ac Auguste Rodin, y cerflunydd, nad oes ei gyffelyb ymhlith yr holl gelfyddydwyr sydd yn byw heddiw # III. Ac yma yn union gedwch i mi roddi cyngor i chwi: darllenwch gyn lleied ag a fedrwch o feirniadaeth esthetig-y mae pethau o'r math naill ai yn syniadau rhagfarnllyd, wedi eu parlysu a'u troi yn ansylweddol oherwydd Codwyd y llythyrau o "Rainer Maria Ri]ke": GESAMMELTE Briefe, Lerausgegeben von Ruth und Carl Sieber-Leipzig. At yr argraffiad hwn y cyfeiria'r rhifau. Ysgrifenn- wyd y llythyrau at Franz Xaver Kappus, bardd a nofelydd ifanc, rhwng 1903 a 1908.