Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pensaerniaeth a Chymru DEWI PRYS THOMAS (Prifysgol Lerpwl). Celfyddyd yw pensaemiaeth-y gelfyddyd o adeiladu'n hardd ac yn ddef- nyddiol. Y mae cynnydd celfyddyd yn dibynnu ar ddatblygiad gwareiddiad. Yn yr ystyr a roddwn heddiw i'r gair celfyddyd, ni ellir ei gymhwyso yn gywir ond at weithrediadau esthetig dyn. Gwir y cyfeirir yn aml at y gelf o ddringo a'r gelf o ryfela, ond anghywir rhestru'r rhain gyda'r gelfyddyd o dynnu darluniau, gyda phensaernïaeth, cerddoriaeth, barddoniaeth neu ryddiaith. Prif swydd celfyddyd yw rhoddi mwyniant. Dywedir yn aml nad oes gwerth materol yn y celfau cain am nad ydynt yn hanfodol ddefnyddiol. Nid yw hyn yn wir am bensaernïaeth, oblegid nid swydd y gelfyddyd hon yw ychwanegu addurn at adeilad, na tharo ar ei wyneb nôd clasurol, Gothig neu Duduraidd. Cynllunio yw pensaerniaeth-yr adeilad yn ei grynswth. Ac er bod y celfau cain oll yn cyflenwi angen cyffredinol yn y ddynoliaeth, haws fyddai hepgor dyfrluniau, cerddoriaeth a barddoniaeth na byw mewn byd heb bensaemiaeth. Y mae trefn yn anhepgor i wareiddiad. Rhaid trefnu'n dinasoedd a'n trefi-hyd yn oed ein pentrefi. Rhaid wrth gynllun i bob adeilad, a chynllunio yw sylfaen pensaernîaeth. Hyd at gychwyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd pensaerniaeth yn gelfyddyd hanfodol onest a didwyll, yr oedd yn ddrych o fywyd ac arferion yr oes. Yn wahanol i bob celfyddyd arall, tyfodd pensaemiaeth yn union- gyrchol allan o un o anghenion elfennol bywyd dyn-sef yr angen am gysgod. Yn yr oesoedd bore, cafodd y bob a oedd yn pysgota ac yn hela gysgod mewn ogofeydd a chytiau. Yna daeth lIe i bensaerniaeth fel y dyheodd dyn am well cysgod, a gwelir ef yn codi adeiladau gan ddefnyddio llai a llai o goed a mwy a mwy o gerrig a phriddfeini. Diddorol yw sylwi fod cytiau wedi eu suddo i'r ddaear yn hen, hen draddodiad yng Nghymru, a gwelir hen fythynnod yn y wlad heddiw a'r llawr yn is na'r garreg drws, ac nid yn uwch, yn ôl yr arfer erbyn hyn. Ceir enghreifftiau hefyd yng Nghymru o fythynnod gyda'r trawstiau yn codi o'r llawr o bob ochr i'r adeilad ac yn cyfarfod uwchben, a thybir y gwelir tarddiad y syniad hwn yn yr hen arferiad o ffurfio cytiau trwy blygu coed ir a ddigwyddai fod mewn cylch gan glymu eu brigau, a'u cuddio gyda rhyw fath o groen er darpar cysgod ar gyfer y tywydd. Fel y cynyddodd gwareiddiad ac y cryfhaodd gallu meddyliol dyn, wele bensaernîaeth yn datblygu — cymerodd meini caboledig le cerrig geirwon, perffeithiwyd cydfesuredd yng Ngroeg, ac yn fuan fe ddaeth y fwa gron a'r fwa bigog i gymryd eu lle mewn adeiladwaith. Ond pwysicach na'r cwbl, hwyrach, oedd darganfod sut i ddefnyddio'n briodol arwynebedd a maint, a gwerth lliw a golau a chysgod.