Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mali ALUN LEWIS Unwaith bob blwyddyn byddai Mali, morwyn Y Ffridd, yn destun siarad yr hollardal. Digwyddai hynny pan âi i ffwrdd am wythnosowyliau. Amddima wyddai'r ardalwyr, na hyd yn oed Wmffra Edward, ei meistr, nid oedd ganddi deulu yn unman. O leiaf ni soniai Mali byth amdanynt. A methodd chwil- otwyr mwyaf dawnus Llangarrog ddarganfod i ble yr âi. "Fy musnes i ydi hynny," meddai Mali, a dyna ben ar yr ymchwil. Bob tro, wedi i Mali fynd i ffwrdd, a gadael Wmffra, 'ar ei Iwc ei hun,' byddai rhywun yn sicr o ofyn iddo, "Pam na phriodi di hi, Wmffra?" "Wel, ia," atebai Wmffra Edward, "pam hefyd?—ond tipyn o hen lanc ydw i, weldi." Ond chwedl Wil y crydd, ryw noson yn y gweithdy, "Mi w'ranta i nad oes dim bai ar y cynnig." "O, tybad?" meddai un o'r cwmni. "Wel, nid siarad ar fy nghyfar 'rydw i," meddai Wil, "mi ddarfu gystal â dweud hynny wrtha i 'r wythnos ddiwedda'n y byd, pan euthum i yno i'w fesur o am bâr o 'sgidia." "'Be gebyst sydd arna ti na phriodi di Mali yma?"meddwn i wrtho fo,"mae hi'n hogan dda iawn iti yma." "Dda!" ebr Wmffra, "mi fuaswn i'n meddwl ei bod hi. 'Rydw i fel pysg- odyn o'r dŵr pan fydd hi'n fy ngadael i fel hyn weithiau. Ond, a dweud y gwir iti, Wil, wrth ffrind 'rwan, 'rydw i wedi trio cael fy mhig i mewn fwy nag unwaith, ond mi aeth yn ffliwt bob tro, a 'tydw i ddim yn gyfarwydd iawn â'r job wyddost." "Wel," meddwn inna, "mi fasa'n gwneud gwraig iawn i rywun." "Tydw i ddim mor siwr," ebr Wmffra. "'Rwyt ti'n gwybod sut Ie sydd yma, fel pin mewn papur bob amsar. Mae hi'n gweithio cymaint â dwy, o fore gwyn tan nos. 'Rydw inna 'n rhoi eitha cyflog iddi hi. Ond be gebyst y mae hi'n 'i wneud hefo'i phres, wn i ddim. Mae hi'n gwisgo fel hen wraig, wn i ddim pryd y prynodd hi rwbath newydd,-pâr o sgidia, hyd yn oed, heb sôn am het neu gôt. 'Tydw i ddim yn meddwl y bydd hi'n tynnu ei chloc- siau o'r pan gwyd hi yn y bore nes y bydd hi'n mynd i'w gwely wedyn yn y nos. A mi rydw i'n siwr na welaist ti erioed mohoni mewn na chyngerdd na sosial, na dim o'r fath. 'Does ganddi hi ddim modd, medda hi." "Ond 'wnest ti erioed ofyn iddi hi beth y mae hi'n 'i wneud hefo nhw, Wmffra," ebwn inna. "Do, droeon," ebr fynta, "mi fûm yn 'i phryfocio hi mod i'n mynd i chwilio am yr hosan yn y llofft yma fwy nag unwaith. Ond tria di gael rhywbeth gan Mali pan fydd hi wedi meddwl iti beidio. Mae hi'n cau fel cragen gocos."