Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ni wyddai Wmffra beth i'w wneud. Yr oedd gweld Mali'n wylo yn brofiad newydd sbon iddo. Llanwodd ei lygaid lliw'r gneuen o dosturi, ond yr oedd ei wefusau'n fud. Llanwodd ei bibell yn araf, a'i thanio â darn o bren o'r grât. Cododd a cherddodd i'r drws, a mygu yno â'i bwysau ar y mur. Wedi i Mali ddod ati ei hun, daeth yn ôl ac eistedd yn y gadair freichiau drachefn. Yn sydyn disgleiriodd ei lygaid gonest, a thorrodd gwên yn araf dros ei wyneb. Trawodd ei ddwrn ar y bwrdd nes yr oedd y llestri'n neidio. "Diaist i!" meddai, "Mali!" Cododd Mali ei phen a sychu ei llygaid â chwr ei ffedog. "Mali, rhaid iddo fo ddod atom ni i fyw." Gwyrodd Mali ei phen drachefn, a dechrau pletio ei ffedog trosodd a throsodd, o'r gornel i fyny. "Mali, ydi hi'n fargen?" ebr Wmffra, ac ymestyn ymlaen yn gynhyrfus yn ei gadair. Gollyngodd Mali y ffedog, a rhwbio'r naill droed yn erbyn y llall heb godi ei golygon. "Y-y-ydi," meddai, ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer cododd y gwrid i'w hwyneb. Y Blaid Lafur a Chymru J. E. CAERWYN WILLIAMS Ei fro a'i wlad ei hun yw cyfrifoldeb cyntaf pob gwleidydd. O bryd i'w gilydd, fe wibia'r gwirionedd hwn ar draws meddyliau aelodau Cymraeg y Blaid Lafur, a phan wna, brysiant i faentumio bod polisi eu plaid hwy o blaid datganoli a mesur helaeth o annibyniaeth i Gymru. A barnu wrth eu geiriau a'u hymddygiad ar ôl hyn, ymddengys mai dyna unig ddyletswydd y Blaid Lafur tuag at Gymru. Gresyn na châi'r cyfeillion hyn ddigon o graffter i weld bod eu hosgo a'u hagwedd hwy'n niweidio nid yn unig y genedl Gym- reig, eithr hefyd y Blaid yr ymhonnant eu bod yn aelodau mor selog ohoni. Y mae rhyddid ac ymreolaeth lleiafrifoedd yn rhan o egwyddorion gwerin- iaeth. Ceidw'r Blaid Lafur hyn yn ei chof pan beryglir bodolaeth cenhed- loedd bychain gan unrhyw ymerodraeth heblaw ymerodraeth Loegr, ond fe'i hanghofir yn hwylus iawn wrth drafod problemau lleiafrifoedd Prydain. Dis- gwyliem i'r Llafurwr Cymreig fod yn llai o imperialwr na'i gymrawd Seisnig, ond fe dderbyn ef ei bolisi gan y Sais ar y pwynt hwn yn ogystal ag ar bwyntiau eraill.