Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Troi a Throsi D. EIRWYN MORGAN Fel "tir a daear" a "hoedl ac einioes" yr hen chwedlau, a "fflwcs a thran- gwls" a "chrys a drafers" iaith y coliers, y mae'r pâr "troi a throsi" bron yn anwahanadwy. Nid na ellir meddwl amdanynt ar wahân, wrth gwrs. Gall dyn, er enghraifft, droi tap-neu droi o gyfeiliorni ei ffyrdd — os myn; gellir trosi olwyn dros oledd, neu drosi soned i ryddiaith. Bid sicr; ond am i'r geiriau, drwy siawns, gydseinio-mewn sŵn a synnwyr-ac i rywun (fel yr arfaethwyd i hynny fod),eu defnyddio am y tro cyntaf yn bâr, ac i eraill weld mai da oedd y defnydd hwnnw, aethpwyd i'w mynych arfer gyda'i gilydd, a byth wedyn, aeth unigoliaeth yn eilbeth i'r ddeuair. Maent fel y cwn llestr ar y mamplis-yn gytbwys ddiddrwg un bob pen, ond, mewn un ystyr, yn edrych yn hynod o dwp y naill heb y llall. Yn awr, mynych arfer sy'n cyfrif am ein bod nid yn unig yn disgwyl i bobl dorri geiriau "yn ôl y patrwm," ond yn gresynu wrthynt hefyd, os mynnant fod yn "glasurol" neu'n "bulpudol." Casbeth yw clywed neb yn siarad- neu "wilia"-iaith lyfr. Ac er mor ddiddorol y gall iaith lyfr fod, gyda'i cheidwadaeth dros ffurfiau prin a gwerthfawr, prin y gall ymgystadlu â'r iaith lafar yn ei hystwythder elastigaidd. Oni ellir synnu at ebychiad fel: "Dyna'r tamed bach gwredd 'na wedi shwblachod 'y ngwallt i wedi i fi daclu 'e gynne," i'r un mesur ag y mynner chwysu uwchben llinell astrus o Lyfr Aneirin? Daw rhyw ŵr, rywbryd, a all esbonio rhai o dueddiadau arwyddocaol iaith bob dydd. Dyna'r duedd y mae'n anodd ei hesbonio, er enghraifft, o ail- adrodd yr un gair ar lafar-fe1 y gwneir ag ymadroddion mewn cerdd:-dy- wedir, nid "Na," yn foel, ond "Na, na," nid "Oes," ond "Oes, oes," "ie, ie," "diar, diarl" ac yn y blaen. Chwaraeir wedyn â geiriau sy'n perthyn yn beryglus o agos i'w gilydd, fel pan ddywed gŵr y ty fod ganddo ddau fab, ond bod cymaint rhyngddynt ag sydd rhwng "caib a ch'ibo," neu pan chwardd am ben ei groten fach, a dweud nad oedd "byw na bywyd" onid âi â hi i Swansea Bay! Cred dyn ambell dro mai felly y datblygodd yr arfer o gysylltu geiriau tebyg o ran sŵn fel "troi a throsi" — er taw "troi a thr'iglad" y myn pobl fy sir i ddweud o hyd. Pan fo dyn yn rhwyfus yn ei wely, ni thry yn unig mwy nag y treigla, ond rhyw brofiad cyfansawdd treiglo-troi sydd ganddo. Ni freuddwydiai am ddweud un heb y llall pan ddisgrifio'i rwyfusrwydd mwy nag y breuddwydiai am fynd allan â styden ôl yn unig i ddal ei goler wrth ei grys. Hyd yn oed felly, ni thâl i mi ymdroi yn ormodol gydag arwyddocâd llyth- rennol rhai priod-ddulliau dethol feljhyn, achos fe'm ceidw hynny rhag gallu ymhyfrydu fel y mynnwn yn yr ystâd o feddwl-neu ddiffyg meddwl-a gynrychiolir ganddynt. Af ar fy llw na fynnwn er dim ddibrisio gwaith y gramadegwyr, ond byth er pan ddisgwylid i mi-yn yr ysgol ers llawer dydd-